A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Partner Busnes Pobl a Lleoedd / Swyddle
Swydd:
Partner Busnes Pobl a Lleoedd
Lleoliad:
Cymru, Gweithio o Gartref
Cyflog:
35,176.56
Cyfeirnod:
202605M1
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Mentera
Dyddiad Cau:
10-05-2026

Eich rôl

Ydych chi’n barod i gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa Adnoddau Dynol a chwarae rôl allweddol o fewn cwmni arloesol? Fel ein Partner Busnes Pobl a Lleoedd byddwch chi’n rhan o dîm sydd yn gweithio ar weithredoedd strategol a gweithredol i wneud gyda’n pobl a’n gweithleoedd ar draws y busnes. Byddwch yn cefnogi ein pobl talentog i berfformio ar eu gorau, ein cynorthwyo i rhagweld a rheoli risg, a gweithio ar brosiectau’r adran fydd yn cael effaith ledled y cwmni.

 

Eich tîm a’ch cyfoedion

Mae hwn yn gyfle i ymuno â thîm sydd wedi ei ffocysu ar gyflawni’r ystod lawn o ddyletswyddau a chyfrifoldebau Adnoddau Dynol, yn cynnwys cynnwys cydlynu cefnogaeth ar faterion i wneud â’n gweithleoedd.

 

Eich effaith

Rydych yn bennaf yn gyfrifol am gynghori unedau busnes ar eu rheolaeth o’n pobl a’r amgylchedd ffisegol. Felly byddwch wedi eich grymuso i:

  • Bartneru gyda rheolwyr i ddarparu cyngor ar faterion gwaith a pholisïau bob dydd fel eu bod yn gallu cefnogi eu pobl i berfformio ar eu gorau.
  • Weinyddu ein systemau a'n gweithdrefnau busnes gyda'r nod o ddarparu profiad rhagorol ac integredig i'n pobl tra byddant yn y gwaith.
  • Gefnogi’r adran gyda gweithredoedd yn ymwneud â’n llefydd, ein cyfleusterau, a chydymffurfiaeth iechyd a diogelwch.
  • Gynnal y safonau moesegol uchaf yn eich gwaith, gan gynnwys cyfrinachedd llym.

 

Buddion a chefnogaeth

  • Cyflog cystadleuol a chyfraniad pensiwn hael gan y cyflogwr
  • Cyfraniad o 50% tuag at unrhyw weithgareddau ffitrwydd megis aelodaeth campfa misol, dosbarthiadau ffitrwydd, neu glybiau chwaraeon
  • 25 diwrnod o wyliau (ac 8 gŵyl banc), yn cynyddu i 27 diwrnod (+8) wrth i’ch hyd gwasanaeath gynyddu
  • Tridiau ychwanegol o wyliau dros y Nadolig
  • Yr hawl i gario pump diwrnod o wyliau i’r flwyddyn ganlynol
  • Parcio am ddim ymhob swyddfa
  • Polisiau hyblygrwydd (‘TOIL’) hael gyda’r gallu i gael amser nôl fel gwyliau os yn gweithio oriau hirach
  • Polisiau teuluol hael megis mamolaeth a mabwysiadu
  • Digwyddiadau cymdeithasol corfforaethol rheolaidd yn cynnwys ein ‘Cyrdde Mawr’ yn yr Hâf ac adeg y Dolig
  • Hyfforddiant a datblygiad yn y swydd
  • Cyrsiau dysgu/gloywi Cymraeg am ddim, beth bynnag yw lefel eich gallu ar y funud

 

Ffeithiau hanfodol

  • Cyfweliadau: Debygol o fod w/c 18/5
  • Lleoliad: Unrhyw un o swyddfeydd Mentera (hybrid)
  • Math o gontract: Pen-agored
  • Oriau: 37.5 awr yr wythnos, Llun i Gwener

 

Cysylltu

Am fwy o wybodaeth neu am sgwrs anffurfiol, cysylltwch â Dafydd Bowen, Cyfarwyddwr Pobl a Lleoedd:
dafydd.bowen@mentera.cymru