A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Cynorthwyydd Cynllunio Gweithredol (Prosiectau) / Swyddle
Swydd:
Cynorthwyydd Cynllunio Gweithredol (Prosiectau)
Lleoliad:
Caerdydd
Cyflog:
£32,777
Cyfeirnod:
REC002719
Math o Swydd:
Contract Tymor Penodol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
23-11-2025

Disgrifiad Swydd

 

Sylwch: contract cyfnod penodol am 15 mis yw hwn

 

Cyfle Cyfartal

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, ac yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell ac i fod yn fwy arloesol.  Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb ei safbwynt ei hun, felly rydyn ni’n creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu. Drwy wneud hyn, rydyn ni’n benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru.  Rydyn ni'n creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono. 

 

Pwy ydyn ni 

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny’n rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli’r wlad i newid y ffordd y mae’n teithio, fel ein bod i gyd yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n ein hwynebu. 

 Rydyn ni’n weithle agored a chynhwysol, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni eisiau creu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i ddatblygu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i wireddu’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru, sef adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion.

 

Cyfrifoldebau’r swydd

Fel Cynorthwyydd Cynllunio Gweithredol a Dyrannu, byddwch yn darparu cymorth gweinyddol a logistaidd i'r rheolwr prosiectau cynllunio a pherfformiad. Byddwch hefyd yn cefnogi'r gwaith o gynllunio a gweithredu'r holl brosiectau perthnasol.

 Bydd cyfrifoldebau’r swydd yn cynnwys y canlynol, ymhlith pethau eraill: 

  • Darparu cymorth gweinyddol i dîm y Prosiect Cynllunio Gweithredol o ddydd i ddydd.
  • Bod yn brif gyswllt ar gyfer unrhyw ymholiadau, ceisiadau, neu gyfleoedd.
  • Rheoli’r gwaith o archebu ystafelloedd / archebu nwyddau swyddfa / blychau post yr adran.
  • Cynhyrchu / dosbarthu gwaith papur yr adran.
  • Sicrhau y glynir wrth amserlenni gweithdrefnau bob amser.
  • Ymgymryd â gweithgareddau cysoni ariannol, gan gynnwys archebion prynu, atafaeliadau, a dilysu anfonebau.
  • Cynhyrchu a rheoli deunyddiau cefnogi prosiect megis olrhain camau, cofrestrau risgiau, cofnodion / nodiadau cyfarfodydd, a dogfennau briffio
  • Cynnal system ffeilio gadarn a chywir (copi electronig a chopi caled) er mwyn rheoli’r archif a deunyddiau cyfeirio
  • Cynnal perthynas waith gadarnhaol gyda rhanddeiliaid allweddol (mewnol ac allanol), gan gynrychioli buddiannau Trafnidiaeth Cymru mewn modd positif a phroffesiynol
  • Gwybodaeth dda am ddaearyddiaeth rhwydweithiau a phrofiad o'r sector trafnidiaeth yn ddymunol

 

Am beth rydyn ni’n chwilio

  • Sgiliau cyfathrebu gwych, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
  • Sgiliau rhyngbersonol ardderchog.
  • Sgiliau ardderchog o ran dadansoddi a datrys problemau.
  • Profiad o ysgrifennu deunydd proffesiynol, ei gyflwyno’n briodol a defnyddio iaith briodol.
  • Sgiliau trefnu a sylw i fanylion.
  • Gallu gweithio ar nifer o dasgau a blaenoriaethu llwyth gwaith yn briodol.
  • Profiad o greu cynlluniau a’u holrhain nes iddynt gael eu cwblhau

Sgiliau Cymraeg

Byddai’r gallu i siarad/ysgrifennu yn y Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn hyrwyddo ac yn cefnogi gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i gynnal, i ddatblygu ac i loywi eu sgiliau Cymraeg. Rydyn ni'n rhoi cefnogaeth lawn i'n staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Cymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd, fel dysgu ar-lein, cyrsiau mewn ystafell ddosbarth, a chyllid i fynd i gyrsiau cymunedol lleol.

 

Y camau nesaf

Ai'r swydd hon yw'r cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi ragor o wybodaeth? Trowch at y Disgrifiad Swydd sydd wedi'i atodi i gael rhagor o fanylion.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl. Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os bydd digon o geisiadau wedi dod i law.