A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Cynghorwr Iechyd Galwedigaethol a Llesiant - 12 mis / Swyddle
Swydd:
Cynghorwr Iechyd Galwedigaethol a Llesiant - 12 mis
Lleoliad:
Pontypridd
Cyflog:
Cyflog o £32,000 y flwyddyn
Cyfeirnod:
REC01452
Math o Swydd:
Contract Tymor Penodol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
25-11-2025

Disgrifiad Swydd

Sylwch: mae hwn yn gontract cyfnod penodol am 12-mis

 

Cyfle Cyfartal 

 

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono. 

 

Pwy ydyn ni  

 

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.  

 

Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw. 

  

Cyfrifoldebau’r swydd 

 

Mae'r Cynghorwr Iechyd Galwedigaethol a Llesiant yn gyfrifol am ddarparu arweiniad, adnoddau a chymorth ar fentrau Iechyd Galwedigaethol a Llesiant. 

 

Bydd cyfrifoldebau’r swydd yn cynnwys y canlynol, ymhlith pethau eraill. 

  • Cefnogi’r gwaith o gyflawni prosiectau llesiant a darpariaeth Iechyd Galwedigaethol drwy gydweithio â’r timau Adnoddau Dynol, Diogelwch a Chyfathrebu i sicrhau gwaith cynllunio cynhwysfawr, dyrannu adnoddau a chyfathrebu effeithiol. 
  • Datblygu, cynnal a hyrwyddo’r calendr Iechyd Galwedigaethol a llesiant drwy weithio gyda’r tîm Cyfathrebu i sicrhau bod gweithwyr yn ymgysylltu’n gyson â chynlluniau Iechyd Galwedigaethol a llesiant.  
  • Gweithio gyda’r darparwr Iechyd Galwedigaethol i gyflawni Dangosyddion Perfformiad Allweddol a bodloni Cytundebau Lefel Gwasanaeth yn unol â safonau’r diwydiant drwy fonitro cynnydd – gan gynnwys dadansoddi data, rhoi diweddariadau rheolaidd, a defnyddio adborth i wella’r gwaith o ddarparu gwasanaethau. 
  • Rheoli ymyriadau neu asesiadau clinigol angenrheidiol drwy ddarparu cymorth gweinyddol i sicrhau cymorth effeithiol ac amserol i gydweithwyr a rheolwyr. 
  • Nodi tueddiadau a darparu adborth wedi’i ddiweddaru yn y Rhaglen Cymorth i Weithwyr drwy ddadansoddi data perfformiad i sicrhau bod pob agwedd ar gynnig y Rhaglen yn cyflawni yn unol â’n Cytundebau Lefel Gwasanaeth mewnol a chynllun strategol TrC. 

 

Am beth rydyn ni’n chwilio 

  • Profiad gwaith amlwg mewn swydd Pobl, Llesiant neu swydd debyg. 
  • Gallu dadansoddi gwybodaeth gymhleth a darparu argymhellion clir y gellir gweithredu arnynt. 
  • Hoffus ac yn gallu cyfathrebu a meithrin perthnasoedd yn dda ar draws holl lefelau’r busnes.  
  • Trefnus iawn ac yn gallu blaenoriaethu a rheoli llwyth gwaith. 
  • Gallu defnyddio rhaglenni Microsoft Office yn hyderus. 

 

 Sgiliau Iaith Gymraeg  

 

Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.  

 

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol. 

 

Y camau nesaf 

 

A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.  

 

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus. 

 

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.  

 

* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law. 

 

Os ydych wedi cyflwyno cais am y rôl hon o fewn y 6 mis diwethaf ac wedi bod yn aflwyddiannus, peidiwch ag ailymgeisio oherwydd yn anffodus, ni fydd eich cais yn cael ei ystyried. 

 

Sylwch fod yn rhaid i chi ddal yr hawl barhaol i weithio yn y DU. Nid ydym yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd.