A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Gweithredwr Glanhau gyda'r nos (Glanhäwr dwfn) - Y Barri / Swyddle
Swydd:
Gweithredwr Glanhau gyda'r nos (Glanhäwr dwfn) - Y Barri
Lleoliad:
Y Barri
Cyflog:
£13.83 yr awr
Cyfeirnod:
REC01357
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
22-08-2025

Disgrifiad Swydd

Patrwm shifft – Nosweithiau’n unig 

 

Cyfle Cyfartal

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, ac yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell ac i fod yn fwy arloesol.  Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb ei safbwynt ei hun, felly rydyn ni’n creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu. Drwy wneud hyn, rydyn ni’n benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru.  Rydyn ni'n creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

Pwy ydyn ni 

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny’n rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli’r wlad i newid y ffordd y mae’n teithio, fel ein bod i gyd yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n ein hwynebu.

 

Rydyn ni’n weithle agored a chynhwysol, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial.

 

Rydyn ni eisiau creu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i ddatblygu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i wireddu’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru sef adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion.

 

Cyfrifoldebau’r swydd

Rôl y Gweithiwr Glanhau yw cyflawni tasgau glanhau penodol ar ein trenau ac yn ein gorsafoedd o fewn gweithrediadau glanhau Trafnidiaeth Cymru (TrC).

  • Glanhau ardaloedd cyfleusterau dynodedig gan gynnwys gwasanaethau trên drwy ddefnyddio’r cyfarpar a ddarperir a’r Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) perthnasol i sicrhau bod yr holl dasgau a gewch, fel sychu llaith, ysgubo, hwfro, mopio, glanhau’r ystafell orffwys, glanhau’r gegin, raciau bagiau yn cael eu cwblhau yn ystod yr amserlenni perthnasol.
  • Glanhau platfformau gorsafoedd a mannau penodol drwy wagio biniau, glanhau graffiti, cael gwared ar ysgarthion colomennod yn amodol ar hyfforddiant, er mwyn darparu amgylchedd glân a diogel i gwsmeriaid a chydweithwyr
  • Ailgyflenwi ac ailstocio ardaloedd cyfleusterau dynodedig drwy ddefnyddio’r cyflenwadau a ddarperir, fel sebon, papur toiled er mwyn darparu amgylchedd glân a diogel i gwsmeriaid a chydweithwyr
  • Cyflawni tasgau glanhau trwm lle bo angen drwy ddefnyddio peiriannau perthnasol i lanhau carpedi, glanhau ardaloedd â stêm ac weithiau golchi cyfleusterau gorsaf â phibell jet pan fo angen

 Am beth rydyn ni’n chwilio

  • Profiad o weithio mewn rôl lanhau.
  • Gallu trin cyfarpar a deunyddiau
  • Deall a gweithio o fewn polisïau a gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch
  • Deall sut mae delio â sylweddau glanhau yn ddiogel.

Sgiliau Cymraeg

Byddai’r gallu i siarad/ysgrifennu yn y Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.

 

Mae Trafnidiaeth Cymru yn hyrwyddo ac yn cefnogi gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i gynnal, i ddatblygu ac i loywi eu sgiliau Cymraeg. Rydyn ni'n rhoi cefnogaeth lawn i'n staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Cymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd, fel dysgu ar-lein, cyrsiau mewn ystafell ddosbarth, a chyllid i fynd i gyrsiau cymunedol lleol.

 

Y camau nesaf

Ai'r swydd hon yw'r cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi ragor o wybodaeth? Trowch at y Disgrifiad Swydd sydd wedi'i atodi i gael rhagor o fanylion.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn arweinydd ym maes anabledd. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

 

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.

 

Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os byddwn wedi derbyn digon o geisiadau.

 

**Os ydych chi wedi cyflwyno cais ar gyfer y swydd hon yn y chwe mis diwethaf ac wedi bod yn aflwyddiannus, peidiwch ag ailymgeisio oherwydd, yn anffodus, ni fydd eich cais yn cael ei ystyried.

Cofiwch fod yn rhaid i chi fod â’r hawl barhaol i weithio yn y DU. Nid ydym yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd.**