Swydd:
Swyddog Arbenigol y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd
Lleoliad:
Canolbarth Cymru, Gogledd Cymru
Cyflog:
£42,662 - £46,662
Cyfeirnod:
GSNRW20379326107a
Sgiliau Cymraeg:
Hanfodol Lefel 3
Math o Swydd:
Parhaol
( Llawn Amser, 37awr, Gradd 06 )
Cleient:
Cyfoeth Naturiol Cymru | Natural Resources Wales
Swyddog Arbenigol y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd
Rhif Swydd: 203793
Cyfarwyddiaethau: Gweithrediadau Cenedlaethol
Tîm: Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd
Lleoliad: Hyblyg yng Nghanolbarth Cymru, Hyblyg yng Ngogledd Cymru
Gradd / Amrediad cyflog: 06: £42,662 - £46,662
Patrwm Gwaith: Llawn amser - 37 awr y wythnos
Working hours: 37.00
Math o gytundeb: Parhaol
Lefel hyfedredd yn y Gymraeg: B1 - Lefel ganolradd
Dyddiad cau: 19/10/2026
Y rôl
Os ydych chi’n cael eich ysgogi gan waith maes heriol, gweithio yn yr awyr agored, a’r boddhad o weld newid go iawn, bydd y rôl hon yn addas iawn i chi. Fel arbenigwr adfer mawndiroedd yn y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd, byddwch yn treulio amser yn rhai o dirweddau gwylltaf Cymru—sydd yn aml yn wlyb, yn aml yn fwdlyd, a phob amser yn werth chweil. P’un a fyddwch chi’n llywio drwy dir grugog dwfn, yn ymdrin â thir corsiog, neu’n gweithio yng nghanol glaw di-baid Cymru, byddwch chi’n gwneud hynny ag amcan: adfer mawndiroedd sy’n hanfodol ar gyfer gwydnwch hinsawdd, bioamrywiaeth, a rheoli dŵr.
Byddwch chi’n gweithio ar brosiectau o’r dechrau i’r diwedd, gan ddatblygu manylebau technegol, sicrhau caniatâd, rheoli cyllidebau, a goruchwylio contractwyr er mwyn sicrhau darpariaeth o ansawdd uchel. Bydd eich gwaith yn cynnwys mapio, tirfesur, a dylunio ymyriadau adfer ar draws tir a reolir gan CNC a safleoedd preifat, gan ddarparu cyngor arbenigol i gydweithwyr, partneriaid, tirfeddianwyr a rhanddeiliaid. Byddwch hefyd yn cyfrannu at y gwaith o fonitro, adrodd a rhannu gwybodaeth wrth i’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd barhau i ehangu, gan adeiladu portffolio treigl o brosiectau ar wahanol gamau yn eu datblygiad.
Gwaith cadwraeth ymarferol yw hwn ym mhob ystyr – mae’n waith heriol, amrywiol, a hynod effeithiol. Dyma’ch cyfle i chwarae rhan allweddol wrth fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur, gan weithio gyda thîm brwdfrydig ar draws rhai o dirweddau mwyaf gwerthfawr Cymru.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, ac fe gytunir patrwm gwaith hybrid priodol ar eich penodiad. Bydd unrhyw gyfarfodydd wyneb yn wyneb rheolaidd neu hyfforddiant yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Mae teithio i wahanol swyddfeydd ac yn aml i leoliadau anghysbell na ellir eu cyrraedd heb allu gyrru yn ofynnol, felly mae trwydded yrru lawn a chyfredol yn hanfodol.
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal o ddydd Llun, 2ail o Dachwedd 2026 ar Microsoft Teams.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Arwain a chydlynu cyngor a chyfarwyddyd technegol arbenigol o amrywiaeth o ffynonellau; sicrhau bod penderfyniadau yn seiliedig ar farn dechnegol gadarn yn unol â’r ddeddfwriaeth gyfredol a’r arferion gorau.
- Gweithio gydag aelodau eraill o dîm y prosiect, staff eraill CNC, a rhanddeiliaid allanol i gynllunio a datblygu’r rhaglen fanwl o waith adfer safleoedd, gan asesu’r gofyniad technegol ar gyfer amrywiaeth eang o brosiectau adfer, a llunio’r manylebau technegol at ddefnydd y contractwyr.
- Gweithio gyda’r swyddog grantiau a chaffael yn y rhaglen mawndiroedd i dendro a gosod prosiectau mewn modd amserol, ac yn unol â pholisïau a gweithdrefnau CNC.
- Ymgymryd â’r gwaith o oruchwylio contractwyr yn y maes, gan sicrhau cysylltiad â pherchnogion / meddianwyr, staff eraill CNC, a staff partneriaid.
- Sicrhau bod yr holl gydsyniadau angenrheidiol ar gyfer cyflawni prosiect ar waith, gan gynnwys (pan fo’n berthnasol) cydsyniadau rhywogaethau a warchodir gan Ewrop, cydsyniadau SoDdGA, cydsyniadau cwrs dŵr cyffredin, cymeradwyaethau perygl llifogydd, a chydsyniadau cynllunio.
- Datblygu a rheoli nifer o gontractau, gan gynnwys contractau sy’n gorgyffwrdd ac sy’n cwmpasu pob agwedd ar y prosiect, gan sicrhau bod manylebau’r prosiect a’r ddarpariaeth yn gyson ac yn cydymffurfio â pholisi iechyd a diogelwch a chyflawni prosiectau CNC, gan gynnwys glynu wrth y Rheoliadau (Dylunio a Rheoli) Adeiladu pan fo’n berthnasol.
- Cynorthwyo staff eraill CNC i ddylunio, caffael a rheoli contractau adfer mewn achosion pan fo’r staff hyn yn arwain ar gyflawni prosiectau.
- Cadw cofnodion manwl o gynnydd mewn perthynas â gweithredu’r rhaglen i ategu’r system adrodd. Cyflwyno a rhannu canlyniadau a dysgu drwy adroddiadau ysgrifenedig a dulliau eraill.
- Cyfrannu’n rheolaidd at adroddiadau cynnydd a’r wybodaeth ddiweddaraf dan arweiniad rheolwr y rhaglen.
- Gyda chymorth staff eraill CNC a staff partneriaid, llunio profforma asesu a monitro prosiect safonol, a’i hyrwyddo / rhoi ar waith er mwyn sicrhau bod pob prosiect yn elwa ar asesiad sylfaenol safonol.
- Mynd i gyfarfodydd rheolaidd y tîm a chymryd rhan ynddynt, a chefnogi arweinydd y tîm yng nghyfarfodydd y bwrdd prosiect a’r grŵp llywio.
- Rheoli’r gyllideb a ddyrennir i’r elfennau prosiect yr ydych yn gyfrifol amdanynt, a chynnal cydberthnasau â chyflenwyr trydydd parti er mwyn cyflawni gofynion gwerth am arian a phroffiliau gwariant.
- Cefnogi’r partneriaid sy’n cael eu hariannu gan CNC i gyflawni eu prosiectau, gan gynnwys darparu cymorth technegol a logistaidd, a chraffu ar ddulliau arfaethedig, er mwyn sicrhau’r canlyniadau adfer gorau posibl.
- Gweithio gyda staff Tîm yr Amgylchedd a Rheoli Tir, tenantiaid a thirfeddianwyr i helpu i gyflawni cytundebau rheoli.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun drwy ddefnydd effeithiol o'ch cynllun datblygu personal (a elwir yn Sgwrs)
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Gradd mewn pwnc perthnasol, neu brofiad sylweddol yn y ddisgyblaeth.
- Aelodaeth o gorff proffesiynol, neu’n gweithio tuag at hynny.
- Gwybodaeth fanwl am gadwraeth ecosystemau mawndiroedd, gyda phrofiad o asesu cyflwr safleoedd a gofynion adfer
- Sgiliau ysgrifennu adroddiadau rhagorol, a phrofiad o ddefnyddio systemau gwybodaeth ddaearyddol i gynllunio a chofnodi gweithgareddau prosiect.
- Gwybodaeth a phrofiad o weithredu deddfwriaeth berthnasol Cymru, y DU a’r UE, a gofynion cydsyniad sy’n gysylltiedig â gweithio ar safleoedd gwarchodedig.
- Profiad o ddatblygu, caffael a rheoli prosiectau adfer gwaith daear cymhleth ar raddfa fawr, gan gynnwys llunio manylebau technegol, rheoli contractwyr, a defnyddio rheoliadau iechyd a diogelwch perthnasol. Arbenigedd mewn cynllunio gwaith, cyllidebu a rheoli contractau.
- Profiad o gyfathrebu’n effeithiol ag amrywiaeth eang o bartneriaid, o reolwyr / perchnogion a deiliaid tir unigol hyd at bartneriaid strategol allweddol.
- Y gallu i gydweithio ag eraill a gweithio’n annibynnol i gwrdd â safonau llywodraethu uchel, gan ddangos menter bersonol a sgiliau trefnu da.
- Trwydded yrru lawn a chyfredol yn y DU.
Gofynion y Gymraeg
Hanfodol: B1 - Lefel canolradd
Noder: Os nad ydych yn bodloni'r Gofynion y Gymraeg y rôl hon ni fydd eich cais yn cael ei ei adolygu.