Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 325
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Penodi Aelod
Crynodeb o gefndir y Corff
Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar y broses er mwyn penodi aelodau i’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol (‘y Bwrdd Cenedlaethol’) a sefydlwyd o dan adran 132 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Prif gyfrifoldeb aelodau’r Bwrdd Cenedlaethol fydd sicrhau bod dyletswyddau’r Bwrdd Cenedlaethol yn cael eu cyflawni’n effeithiol. Bydd y Bwrdd Cenedlaethol yn derbyn gwybodaeth gan Fyrddau Diogelu lleol ac eraill i’w gynorthwyo i roi sicrwydd i Weinidogion Cymru bod trefniadau i ddiogelu ac amddiffyn yn cael eu harwain, eu datblygu, eu herio a’u hyrwyddo’n briodol yng Nghymru.
Tâl ac ymrwymiad amser
Bydd aelodau'n cael tâl o £198.00 y diwrnod a disgwylir ymrwymiad amser o 24 diwrnod y flwyddyn. Telir costau teithio a threuliau a bydd y penodiad am gyfnod o dair blynedd. Cynhelir cyfarfodydd y Bwrdd Cenedlaethol ar-lein fel arfer drwy Teams neu yng Nghaerdydd, gyda chyfarfodydd rheolaidd hefyd yn cael eu cynnal mewn lleoliadau eraill ledled Cymru. Bydd dyddiad ac amser cyfarfodydd dilynol yn cael ei ystyried a'i bennu gan benodeion y Bwrdd Cenedlaethol, a bydd angen i hynny adlewyrchu eu dyletswyddau i sicrhau ymgysylltiad a chyfranogiad effeithiol drwy Gymru benbaladr.
Rheswm dros apwyntiadau
Rydym yn ceisio gwneud 1 penodiad i sicrhau bod y Bwrdd Cenedlaethol yn parhau i weithredu gydag uchafswm o 6 Aelod fel y nodir yn Rheoliad 3 o Reoliadau Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol (Cymru) 2015.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i benodi unigolion i gyrff cyhoeddus, boed hynny gyda thâl neu heb dâl, drwy gystadleuaeth deg ac agored. Er nad yw penodiadau i’r Bwrdd Cenedlaethol oddi mewn i gylch gwaith y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus, gwneir y penodiadau hyn drwy ddefnyddio proses sy'n ystyriol o God Ymarfer y Comisiynydd ar Benodiadau gan Weinidogion i Gyrff Cyhoeddus, fel arfer gorau.
Polisi Llywodraeth Cymru yw hyrwyddo ac integreiddio cyfle cyfartal ym mhob agwedd ar ei busnes, gan gynnwys penodiadau i gyrff cyhoeddus. Croesewir ac anogir ceisiadau gan bob grŵp ac rydym yn sicrhau na fydd unrhyw ymgeisydd cymwys am swydd gyhoeddus yn derbyn triniaeth lai ffafriol ar sail oedran, anabledd, rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Bydd egwyddorion cystadleuaeth deg ac agored yn berthnasol a gwneir penodiadau ar sail teilyngdod.
Mae’r sgiliau Cymraeg canlynol yn hanfodol ar gyfer 1 swydd:
Dealltwriaeth - Yn gallu deall y rhan fwyaf sgyrsiau sy’n gysylltiedig â gwaith;
Darllen – yn gallu darllen y rhan fwyaf o ddeunydd sy’n gysylltiedig â gwaith;
Siarad - Yn gallu sgwrsio yn y rhan fwyaf o sgyrsiau sy’n ymwneud â gwaith;
Ysgrifennu - Yn gallu paratoir rhan fwyaf o waith ysgrifenedig yn y Gymraeg.
Bydd disgwyl i bob ymgeisydd ddangos ymrwymiad tuag at yr iaith a diwylliant, a dangos arweiniad i gryfhau a hyrwyddo darpariaeth gwasanaeth dwyieithog o fewn yr amgylchedd diogelu yng Nghymru.
Am ragor o wybodaeth, ac er mwyn ymgeisio, cliciwch ar y botwm 'Ymgeisio' nawr.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw Dydd Iau, 20 Tachwedd 2025 (4pm).