Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 434
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Teitl y swydd: Swyddog Marchnata a Chyfathrebu Eisteddfod yr Urdd
Math o gytundeb: Swydd barhaol
Oriau gwaith: Llawn amser (35 awr yr wythnos)
Graddfa: Gweithredol 5: £31,745 - £35,365 y flwyddyn
Lleoliad: Un o brif swyddfeydd yr Urdd (gan gynnwys Caerdydd, Glan-llyn, Bangor a Caerfyrddin)
Dyddiad ac amser cau: 17/07/2026 am 10:00yb
Dyddiad cyfweld: 22/07/2026
Y swydd
Rydym yn chwilio am Swyddog Marchnata a Chyfathrebu trefnus, creadigol a strategol, gyda phrofiad o farchnata digidol a chyfathrebu cyhoeddus. Bydd y Swyddog yn gyfrifol am arwain ar ddatblygu a hyrwyddo brand Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru a phrosiectau eraill yr adran, drwy greu cynnwys apelgar, perthnasol, cyfoes ac effeithiol sy’n tyfu ac yn amrywio cynulleidfaoedd yr Urdd.
Bydd gan yr unigolyn gyfrifoldeb dros reoli a datblygu platfformau digidol, yn ogystal ag arwain ar ymgyrchoedd marchnata a chyfathrebu i hyrwyddo’r holl waith celfyddydol drwy gydol y flwyddyn.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Llio Maddocks (Cyfarwyddwr yr Eisteddfod a'r Celfyddydau) ar lliomaddocks@urdd.org
Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd wedi ei gwblhau dros e-bost at swyddi@urdd.org