Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 434
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Cynorthwy-ydd Cynnal a Chadw, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Math o swydd wag: Penagored gyda ffactor perthnasol
Categori: Technegol
Ystod cyflog: Gradd B - £25,336.14
Oriau: 37 awr yr wythnos
Gofyniad lefel iaith Gymraeg: Dymunol
Crynodeb o'r Swydd
Ydych chi’n berson trefnus, gyda sgiliau gwasanaeth cwsmer ardderchog, ac yn barod am rôl mewn tîm prysur yn cefnogi gwaith pwysig sy’n cadw ein hadeiladau a’n hystâd ar agor?
Rydyn ni’n chwilio am Gynorthwy-ydd Cynnal a Chadw llawn amser i ymgymryd ag amrywiaeth o waith trwsio a thasgau cynnal a chadw cyffredinol ar safleoedd Amgueddfa Cymru.
Rydyn ni’n chwilio am rywun sydd eisiau bod yn rhan o dîm ymroddedig sy’n gofalu am rai o brif asedau Cymru o ran adeiladau treftadaeth.
Byddech chi’n canolbwyntio ar helpu i gadw ein cyfleusterau mewn cyflwr mor dda â phosibl, er mwyn cynnig profiad diogel a dymunol i’n hymwelwyr a’n staff. Byddwch yn bwynt cyswllt allweddol ar gyfer contractwyr sy’n dod i’r Amgueddfa i wneud gwaith ac sy’n rhaid eu hebrwng ar bob adeg.
Bydd y rôl yn cael ei lleoli’n bennaf yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac weithiau Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, a bydd yn sicrhau bod strwythurau ac adeiladau allweddol ar gael i’w defnyddio drwy’r amser, gan gyflawni pob math o dasgau cynnal a chadw bach, o sicrhau bod systemau draenio to yn gweithio’n iawn i ymateb i’r angen i glirio draeniau a phopeth rhwng y ddau hyn.