Swydd:
Goruchwyliwr Cegin
Lleoliad:
Y Bala
Cyflog:
£24,879 - £26,016 y flwyddyn (pro rata)
Cyfeirnod:
GCGLL3
Sgiliau Cymraeg:
Hanfodol
Math o Swydd:
Parhaol ( Parhaol )
Cleient:
Urdd Gobaith Cymru
Dyddiad Cau:
31-10-2026

Teitl swydd: Goruchwyliwr Cegin

Math o gytundeb: Swydd Parhaol

Oriau gwaith: Llawn amser neu rhan amser (oriau hyblyg)

Graddfa: Gweithredol 2 : £24,879 – £26,016 y flwyddyn

Lleoliad: Glan-llyn

Dyddiad cau: 31/10/2026

Y Swydd

Rydym yn chwilio am Oruchwyliwr Cegin brwdfrydig a threfnus i arwain gweithrediadau dyddiol y gegin, goruchwylio a chefnogi staff, sicrhau safonau uchel o hylendid a diogelwch bwyd, a darparu prydau o safon i’n gwersyllwyr. Mae hwn yn gyfle gwych i unigolyn sy’n mwynhau gweithio mewn amgylchedd prysur ac sy’n meddu ar brofiad neu’r gallu i arwain tîm arlwyo.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Huw Symonds (Rheolwr Gwersyll) ar 01678541000 neu huwsymonds@urdd.org

Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd wedi ei gwblhau dros e-bost at swyddi@urdd.org