A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Newyddiadurwr (Rhaglenni Cymraeg) / Swyddle
Swydd:
Newyddiadurwr (Rhaglenni Cymraeg)
Lleoliad:
Caerdydd
Cyflog:
£29,034 - £39,697 
Cyfeirnod:
703
Math o Swydd:
Contract Tymor Penodol
Cleient:
ITV
Dyddiad Cau:
05-01-2026

Newyddiadurwr (Rhaglenni Cymraeg)

ITV Cymru Wales

 

9 mis 

 

Lleoliad: Caerdydd

 

Hysbyseb allanol: £29,034 - £39,697 

 

Y rôl

 

Rydym yn chwilio am newyddiadurwr uchelgeisiol  i ymuno a’r tîm rhaglenni Cymraeg yn ITV Cymru Wales.

 

Mae’r rôl yn gyfle gwych i newyddiadurwr weithio ar draws ein prif frandiau materion cyfoes (Y Byd ar Bedwar & Y Byd Yn Ei Le.) 

 

Gyda chysylltiadau ar draws Cymru, bydd gennych ddealltwriaeth a phrofiad o weithio ar gynhyrchiadau newyddion neu faterion cyfoes. Bydd hefyd gennych ddealltwriaeth wych o wleidyddiaeth a thirwedd gwleidyddol Cymru. 

 

Gydag Etholiad y Senedd ar y gorwel, byddwch yn rhan hanfodol o'r tîm fydd yn gweithio ar gynnwys etholiadol 'Y Byd yn ei Le' - gan ymchwilio, dod o hyd i gyfranwyr, cefnogi y ffilmio ar leoliad a’n cynhyrchu cynnwys digidol perthnasol.  

 

Bydd hefyd disgwyl i chi gefnogi a gweithio ar ymchwiliadau a chynnwys materion cyfoes ar gyfer cyfres ‘Y Byd ar Bedwar’.

 

Bydd gennych brofiad a dealltwriaeth o anghenion cydymffurfiaeth a chanllawiau darlledu a’r gallu i weithio dan bwysau o dan amgylchiadau heriol.

 

Sgiliau allweddol (meini prawf gofynnol)

  • Rhuglder yn y Gymraeg (ar lafar ac yn ysgrifenedig)
  • O leiaf 1 flwyddyn o brofiad newyddiadurol mewn newyddion neu faterion cyfoes
  • Gwybodaeth wych o wleidyddiaeth Cymru a’r DU
  • Dealltwriaeth o gydymffurfiaeth a chanllawiau darlledu.
  • Dealltwriaeth wych o blatfformau digidol gyda syniadau am sut i ddenu cynulleidfaoedd newydd.

Gofynion eraill y rôl

  • Sgiliau camera a golygu sylfaenol yn ddymunol ond ddim yn anghenrheidiol.
  • Cysylltiadau eang ac amrywiol 
  • Sgiliau cyfathrebu da a phrofiad o weithio yn dda mewn tim

 

Mae amrywiaeth, tegwch a chynhwysiant wrth wraidd popeth rydyn ni’n ei wneud, ac rydyn ni eisiau adlewyrchu ein cynulleidfa – ar y sgrin ac yn ein gweithle. Mae ITV ar gyfer pawb, ac rydyn ni’n annog pobl Fyddar, pobl anabl, pobl niwroamrywiol a Phobl o Liw i wneud cais am y swydd yma.

 

Mae’r ystafell newyddion yn lle prysur, gyda chynyrchiadau newyddion byw, sy’n aml yn gofyn i gydweithwyr wneud penderfyniadau sydyn dan bwysau. Mae angen pobl sydd yn gallu cymryd camau ar eu liwt eu hunain, ac yn enwedig ar gyfer swyddi golygyddol, pobl sy’n gwybod pa wybodaeth fydd ei hangen a sut i fynd ati i’w chwilio.

 

Mae’n rhaid i ni brofi’r sgiliau yma yn ystod y cyfweliad er mwyn gweld sut fydd ymgeiswyr yn ymateb pan maen nhw’n gweithio mewn sefyllfa dan bwysau. Mae hyn yn rhan hanfodol o’r swydd. Byddwn ni bob amser yn ystyried unrhyw gais am addasiadau rhesymol fel rhan o’r broses gyfweld – er enghraifft, rhannu prif themâu pan fydd hynny’n cael ei ofyn mewn perthynas â chyflwr niwroamrywiol – ond eto gan sicrhau ein bod ni’n gallu profi gallu ymgeisydd i weithio’n effeithiol yn yr ystafell newyddion.

 

Yn ITV, rydyn ni’n gwerthfawrogi’r defnydd o dechnoleg ar gyfer ymchwil wrth wneud cais. Rydyn ni’n deall bod  AI, gan gynnwys ChatGPT, yn gallu bod yn adnoddau defnyddiol. Ond, mae gwirionedd a chywirdeb yn bwysig i ni, ac rydyn ni’n disgwyl i ymgeiswyr ddangos eu syniadau a’u profiadau eu hunain.

 

Gall ceisiadau sy’n ymddangos eu bod wedi’u copïo’n uniongyrchol o gynnwys a gynhyrchwyd gan AI gael eu gwrthod. Rydyn ni’n credu mewn proses asesu deg a gonest – ac mae eich unigoliaeth yn allweddol i sefyll allan yn ein dewis.

 

I wneud cais –

 

Anfonwch eich CV, llythyr cais yn ogystal â chynnwys enghreifftiau o’ch gwaith yn eich cais. 

 

Dyddiad cau:  23:55 ar Dydd Llun 5ed Ionawr