A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Arweinydd Prosiectau TG / Swyddle
Swydd:
Arweinydd Prosiectau TG
Cyflog:
£35,912 - £41,906 y flwyddyn
Cyfeirnod:
TG-APTG
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Urdd Gobaith Cymru
Dyddiad Cau:
01-09-2025

Teitl y Swydd:  Arweinydd Prosiectau TG

Math o gytundeb:  Swydd barhaol

Oriau gwaith:  Llawn amser (35 awr yr wythnos)  

Graddfa:  Gweithredol 6: £35,912 - £41,906 y flwyddyn

Lleoliad:  Un o brif swyddfeydd yr Urdd

Dyddiad Cau:  1af o Fedi am 10:00 

Dyddiad Cyfweld:  Wythnos cychwyn 8fed o Fedi

 

Y Swydd

Ydych chi’n angerddol am dechnoleg ac yn mwynhau arwain prosiectau sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol? Dyma gyfle arbennig i ymuno â thîm TG deinamig mewn rôl allweddol wrth lunio dyfodol digidol yr Urdd.

Fel Arweinydd Prosiectau TG, byddwch yn gyfrifol am arwain, cynllunio a chyflawni prosiectau digidol ar draws y sefydliad. Byddwch yn cydweithio’n agos ag adrannau TG ac adrannau eraill i sicrhau bod datblygiadau digidol yn gwella systemau, gwasanaethau ac effeithlonrwydd.

Mae’r rôl hon yn gyfuniad o strategaeth, arloesi ac ymarfer - gan gynnig cyfle i ddylanwadu’n uniongyrchol ar sut mae technoleg yn cael ei defnyddio i gefnogi gwaith eang a phwrpasol yr Urdd. Byddwch yn chwarae rhan ganolog mewn blaenoriaethu ceisiadau, hwyluso cyfathrebu rhwng timau, a sicrhau bod prosiectau’n cael eu cyflawni’n effeithiol ac ar amser.

Os ydych chi’n unigolyn technegol ac ymarferol, gyda brwdfrydedd dros drawsnewid digidol, ac yn mwynhau cydweithio ag eraill i greu newid cadarnhaol – rydym eisiau clywed gennych chi.

 

Am fwy o fanylion cysylltwch â Aled James, Pennaeth Technoleg Gwybodaeth ar aledjames@urdd.org

Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd a’r Ffurflen Cyfle Cyfartal wedi ei gwblhau dros e-bost at swyddi@urdd.org