Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 325
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
A ydych chi’n teimlo’n angerddol am wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a sicrhau, pan fydd gwasanaethau’n methu, y gellir troi at rywun am gymorth drwy system gwyno annibynnol? Oes gennych chi brofiad o ymchwiliadau i gwynion cymhleth neu ymchwiliadau safonau moesegol a/neu reoleiddiol?
Mae’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yn dymuno recriwtio Swyddogion Ymchwilio yn ymchwilio i gwynion oddi wrth aelodau’r cyhoedd am driniaeth annheg neu wasanaeth gwael oherwydd diffyg o ryw fath ar ran cyrff cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Bydd yr Ombwdsmon hefyd yn ymchwilio i gwynion a wneir am Gynghorwyr mewn awdurdodau lleol yng Nghymru a allai, o bosib, fod wedi torri Cod Ymddygiad statudol eu cyngor.
Fel Swyddog Ymchwilio, byddwch yn canolbwyntio ar yr achosion mwyaf difrifol ac yn rheoli llwyth achosion sy’n amrywio o ran cymhlethdod, ar draws nifer o feysydd. Gan ddarparu profiad da i gwsmeriaid drwy gydol y broses, byddwch yn:
Mae disgrifiad swydd llawn a gwybodaeth ychwanegol ar ein gwefan.
I wneud cais am y rôl hon, bydd angen i chi ddangos tystiolaeth o’ch profiad a’ch arbenigedd wrth gynnal ymchwiliadau cymhleth mewn gwasanaethau proffesiynol/y sector cyhoeddus neu ymchwiliadau safonau rheoleiddiol a/neu foesegol. Byddai'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. .
Ewch i’n gwefan (www.ombwdsmon.cymru) i gael gafael ar y pecyn recriwtio.
Cyflwynwch eich Ffurflen Gais a’ch Ffurflen Monitro Cyfle Cyfartal drwy ebost at: recruitment@ombudsman.wales erbyn hanner dydd (12 pm) dydd Llun 3 Tachwedd 2025. Rydym yn cadw’r hawl i gau’r cyfle hwn yn gynnar os daw digon o geisiadau i law, felly peidiwch ag oedi cyn cyflwyno eich cais.
Bydd yr ymatebion a roddwch yn y ffurflen gais yn cael eu defnyddio i lunio’r rhestr fer ar gyfer y rôl.
Mae’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal.
Mae amrywiaeth a chynhwysiant yn ganolog i bopeth a wnawn. Rydym wedi ymrwymo’n weithredol i hyrwyddo a chymryd rhan mewn arferion da yn y ffordd rydym yn denu, yn recriwtio ac yn cadw staff.
Rydym yn annog pawb i ddod â nhw eu hunain yn llwyr i’r gwaith oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi’r gwerth y mae gweithlu gwirioneddol amrywiol yn ei roi i sefydliad. Rydym yn dathlu gwahaniaeth, gan gydnabod y manteision a ddaw yn sgil hyn i’n diwylliant cynhwysol, gan gynnwys oed, anabledd, hunaniaeth o ran rhywedd a mynegiant, crefydd, hil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol a chefndir economaidd-gymdeithasol.