Swydd:
Swyddog Rhyngwladol
Cyflog:
£29,409 – £31,430 y flwyddyn
Cyfeirnod:
SRH1
Sgiliau Cymraeg:
Hanfodol
Math o Swydd:
Parhaol ( Parhaol, llawn amser )
Cleient:
Urdd Gobaith Cymru
Dyddiad Cau:
11-10-2026

Teitl swydd: Swyddog Rhyngwladol

Math o gytundeb: Swydd barhaol

Oriau gwaith: Llawn amser (35 awr yr wythnos)

Graddfa: Gweithredol 4: £29,409 – £31,430 y flwyddyn

Lleoliad: Unrhyw un o brif swyddfeydd yr Urdd

Dyddiad cau: 11eg o Hydref

Dyddiad cyfweld: 20fed o Hydref

Y Swydd

Gweledigaeth Adran Ryngwladol yr Urdd yw sicrhau fod ieuenctid Cymru yn cael profiadau unigryw rhyngwladol gan rannu ein diwylliant, y Gymraeg a’n gweledigaeth fel mudiad i rymuso pobl ifanc i fod yn falch o’u hiaith a’u treftadaeth ac yn agored i’r byd gan ddatblygu sgiliau dinasyddiaeth fyd-eang.

O dan arweiniad y Pennaeth Materion Rhyngwladol bydd y swyddog yn gyfrifol am reoli’r prosiectau rhyngwladol i sicrhau teithiau llwyddiannus a buddiol i’r holl randdeiliaid. Bydd hwn yn cynnwys teithiau tramor, y Neges Heddwch ac Ewyllys Da a gwaith rhyngwladol yng Nghymru.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Ellie Jones, Pennaeth Materion Rhyngwladol.

Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd wedi ei gwblhau dros e-bost at swyddi@urdd.org