A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Rheolwr Systemau Gwybodaeth a Chyfleusterau Gorsafoedd / Swyddle
Swydd:
Rheolwr Systemau Gwybodaeth a Chyfleusterau Gorsafoedd
Lleoliad:
Ffynnon Taf
Cyflog:
£37,394 + 10% atodiad
Cyfeirnod:
REC002703
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
24-08-2025

Disgrifiad Swydd

Cyfle Cyfartal

 

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

 

Pwy ydyn ni 

 

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.

 

Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.

 

 

Cyfrifoldebau’r swydd

 

Dyma gyfle i chi ymuno â thîm Llinellau Craidd y Cymoedd fel Rheolwr Systemau Gwybodaeth a Chyfleusterau Gorsafoedd i helpu i wneud gwahaniaeth i brofiad ein cwsmeriaid. Mae hon yn swydd lle byddwch chi’n cefnogi’r broses o reoli’r gwaith o redeg holl deithiau TrC o ddydd i ddydd er mwyn i’r holl gwsmeriaid gyrraedd y cyrchfannau maen nhw’n bwriadu eu cyrraedd.

 

Bydd cyfrifoldebau’r swydd yn cynnwys y canlynol, ymhlith pethau eraill:

 

  • Fel rhan o’ch cyfrifoldebau o ddydd i ddydd, byddwch yn cofnodi ac yn defnyddio cyhoeddiadau pwrpasol wedi’u recordio dros PA ac yn diweddaru’r wybodaeth hon drwy systemau testun-i-lais.
  • Bydd hyn yn cynnwys monitro a chyfathrebu newidiadau i argaeledd cyfleusterau gorsafoedd (gan gynnwys argaeledd Swyddfeydd Tocynnau, argaeledd peiriannau gwerthu tocynnau ac argaeledd holl gyfleusterau eraill yr orsaf) gan ddefnyddio’r systemau negeseuon rheoli a’r cyfryngau cymdeithasol.
  • Bydd ffocws allweddol ar sicrhau bod yr holl ddiffygion yng nghyfleusterau’r orsaf yn cael eu cofnodi’n briodol/wedi’u cadw’n gyfredol a hefyd yn cael eu hadrodd i’r staff ymateb angenrheidiol.
  • Byddwch yn monitro ac yn ymateb i alwadau gan y cyhoedd drwy gyfrwng Mannau Cymorth Cyhoeddus, Mannau Cymorth Lifftiau a systemau Galwad am Gymorth Toiledau, gan sicrhau bod unrhyw ymateb lleol sydd ei angen yn cael ei roi ar waith.

 

 

Am bwy rydyn ni’n chwilio

 

  • Sgiliau llafar ac ysgrifenedig rhagorol yn y Gymraeg a’r Saesneg
  • Addysg o safon dda ar lefel TGAU neu gymwysterau cyfatebol mewn Saesneg a mathemateg, yn ogystal â sgiliau defnyddio cyfrifiaduron
  • Gallu gweithio'n annibynnol a rheoli eich llwyth gwaith drwy sgiliau blaenoriaethu rhagorol
  • Gwybodaeth ddaearyddol dda am TrC a rhwydwaith cyfagos
  • Gallu rheoli sefyllfaoedd anodd a’ch bod yn gallu rhoi cyfarwyddyd clir a chryno gan fod yn ddyfal a chadarn

 

 

 

Sgiliau Iaith Gymraeg

 

Mae’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. 

 

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol

 

 

 

Y camau nesaf

 

A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.

 

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

 

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.

 

Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.