A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Aelod(au) Annibynnol / Swyddle
Swydd:
Aelod(au) Annibynnol
Lleoliad:
Pen-y-bont ar Ogwr, Pencoed
Cyflog:
£310
Cyfeirnod:
628727OC
Math o Swydd:
Contract Tymor Penodol ( 3 blynedd, gydag estyniad posibl )
Cleient:
Ombwdsmon Cymru | Ombudsman Wales
Dyddiad Cau:
07-09-2026

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (Pencoed)

Aelodau Annibynnol y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg / y Panel Ymgynghorol


Ynglŷn â’r rôl
A hoffech helpu'r Ombwdsmon i gyflawni ei gweledigaeth i unioni pethau i ddefnyddwyr gwasanaethau cyhoeddus ac i ysgogi gwelliant yn y gwasanaethau hynny?  

Rydym yn chwilio i benodi Aelod(au) Annibynnol i ymuno â’n Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg neu'r Panel Ymgynghorol (y Panel).  

Mae'r rhain yn benodiadau allweddol sy'n sail i’n llywodraethu rhagorol.  Rhaid i chi fod yn ymroddedig i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus o safon a gallu cefnogi a herio’r Ombwdsmon.   

Dylech allu dangos tystiolaeth o’ch gallu i ddylanwadu ar sefydliadau ac unigolion, ac ymgysylltu â nhw, ar lefel uchel i hyrwyddo llywodraethu da a newid cadarnhaol.

Rhaid i chi feddu sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol da a gallu dehongli data cymhleth.  Dylech fod â dealltwriaeth dda o wasanaethau cyhoeddus Cymru a byddai hefyd yn ddymunol pe bai gennych rywfaint o ddealltwriaeth o rôl yr Ombwdsmon.  

Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed gennych os oes gennych arbenigedd/profiad yn unrhyw un o’r meysydd canlynol: 

•    Sector yr Ombwdsmon
•    Cyfraith
•    Gwasanaethau Cyhoeddus
•    Cyllid, archwilio neu reoli risg
•    Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Mae’r Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg a’r Panel yn cyfarfod pedair gwaith y flwyddyn.   Caiff cyfradd ddyddiol o £300 ei dalu i Aelodau, gyda thâl ychwanegol ar gyfer hyfforddiant a fynychir y tu hwnt i ddyddiadau cyfarfodydd a drefnwyd. 

Cydraddoldeb, amrywiaeth a’r Gymraeg 
Rydym yn falch o fod yn gyflogwr cyfle cyfartal a chynhwysol ac rydym am wneud ein gweithlu a'n strwythurau llywodraethu yn fwy amrywiol. 

Rydym yn croesawu ac yn annog yn arbennig geisiadau gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys pobl o gefndiroedd ethnig amrywiol a phobl anabl.   Rydym hefyd wedi ymrwymo i gynnal cynrychiolaeth dda o fenywod yn ein sefydliad ac yn ein rolau llywodraethu.

Fel sefydliad dwyieithog, rydym yn defnyddio’r Gymraeg a Saesneg yn ein gwaith ac rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth dwyieithog.   Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn Saesneg. 
  
Ar gyfer y rôl hon, nid yw sgiliau Cymraeg yn angenrheidiol, ond maent yn ddymunol.  

Sut i ymgeisio
Mae rhagor o wybodaeth am y swydd hon a'n proses recriwtio ar gael yn y pecyn recriwtio drwy glicio ar ‘Ceisio Nawr’. 
Pan fyddwch yn ymgeisio, gwnewch hi’n glir pa rôl y mae gennych ddiddordeb ynddi.

Amserlen
Rhaid i chi ymgeisio erbyn hanner dydd, Dydd Llun 7 Medi 2026.   Ni fyddwn yn ystyried ceisiadau a fydd yn cael eu hanfon atom ar ôl y dyddiad hwn.  

Llunnir y rhestr fer ar Dydd Gwener 11 Medi 2026.
Cynhelir cyfweliadau yn swyddfeydd OGCC ar 2 Hydref 2026.

Ansicr a ddylech ymgeisio? 
Byddwn yn cynnal sesiynau anffurfiol ar-lein i roi cyfle i chi ddeall yn well y rôl a’r sefydliad, ac i benderfynu a yw dod yn aelod annibynnol yn addas i chi. I gofrestru ar gyfer un o’r sesiynau hyn, cliciwch ar ‘Ceisio Nawr’, a chewch eich tywys i wefan y cyflogwr lle gallwch gofrestru.

Dyddiadau’r sesiynau:
•    3 Gorffennaf, 16:00–16:30
•    9 Gorffennaf, 11:00–11:30

Yn ogystal, os hoffech drafod yn anffurfiol gyda’r Ombwdsmon am y rôl, e-bostiwch recriwtio@ombwdsmon.cymru neu ffoniwch 01656 644214 a gwnawn gysylltu â chi gyda dyddiad ac amser addas.