A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Swyddog Adnoddau Dynol / Swyddle
Swydd:
Swyddog Adnoddau Dynol
Lleoliad:
Penfro
Cyflog:
£32,597- £34,434
Cyfeirnod:
HRO0826
Sgiliau Cymraeg:
Hanfodol
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Pembrokeshire Coast National Park Authority/Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Dyddiad Cau:
06-09-2026

Swyddog Adnoddau Dynol
Rhan-amser 3 diwrnod yr wythnos
Parhaol

Ydych chi'n ffynnu mewn swydd lle gallwch wneud gwahaniaeth go iawn i lesiant y gweithwyr, i ddiwylliant y sefydliad, ac i arferion pobl?

Rydym yn chwilio am Swyddog Adnoddau Dynol rhagweithiol a gwybodus i ymuno â'n tîm Gwasanaethau Pobl. Swydd gyffredinol AD yw hon yn bennaf â chyfrifoldeb am gynorthwyo a chydlynu gweithgareddau Iechyd a Diogelwch y sefydliad, gan helpu i hyrwyddo amgylchedd gwaith diogel a chadarnhaol.

Ynglyn â'r Swydd

Mae’r swydd yn gyfle cyffrous i chwarae rhan allweddol mewn cyflawni gwasanaeth AD proffesiynol o ansawdd uchel ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Byddwch yn rhoi cyngor arbenigol ar faterion AD ar draws ystod eang o faterion sy'n ymwneud â phobl, gan gynorthwyo’r rheolwyr a’r gweithwyr gydol cylch oes y gweithiwr. Yn ogystal â’ch cyfrifoldebau AD, chi fydd pwynt cyswllt y Gwasanaethau Pobl o ran Iechyd a Diogelwch, a byddwch yn helpu i gynnal cydymffurfiaeth, hyrwyddo arfer gorau, a chynorthwyo diwylliant cadarn o ddiogelwch.

Hefyd byddwch yn cyfrannu at ddatblygu polisïau, prosesau a mentrau AD yn barhaus sy'n cynnal amcanion y sefydliad a phrofiad y gweithwyr.

Beth Fyddwch yn Ei Wneud

- Rhoi cyngor AD proffesiynol yn unol â’r ddeddfwriaeth ac arferion gorau.
- Cynorthwyo’r broses o recriwtio, rheoli perfformiad, cysylltiadau gweithwyr, dysgu a datblygu, a mentrau llesiant.
- Datblygu a gweithredu’r polisïau a’r gweithdrefnau AD.
- Llunio adroddiadau a mewnwelediad ar faterion AD i lywio’r gwaith o wneud penderfyniadau.
- Cydlynu a chynorthwyo’r gweithgareddau Iechyd a Diogelwch ar draws y sefydliad.
- Rhoi canllawiau i’r rheolwyr ar faterion Iechyd a Diogelwch, a chynorthwyo i gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth berthnasol.
- Cynorthwyo’r gwaith o gyflwyno hyfforddiant ar draws materion AD ac Iechyd a Diogelwch.

Rydym yn awyddus i glywed gan ymgeiswyr sy’n cynnig y canlynol:

- Profiad cyffredinol helaeth o faterion AD.
- Diddordeb mewn arferion Iechyd a Diogelwch a dealltwriaeth o’r arferion hynny.
- Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol.
- Y gallu i gyfathrebu ar lafar hyd at Lefel B2 yn y Gymraeg.

Cymwysterau a Phrofiad

- Addysg lefel gradd neu brofiad cyfatebol.
- CIPD Lefel 5.
- Cymhwyster IOSH - Dymunol, gellir cynnig hyfforddiant (neu dystysgrif Iechyd a Diogelwch cyfatebol) neu barodrwydd i weithio tuag at gael tystysgrif.
- Gwybodaeth am systemau Adnoddau Dynol.

Cyflog a Buddion:

Cyflog o £32,597 - £34,434, pro rata, y flwyddyn, lleiafswm o 25 diwrnod o wyliau yn codi i 30 diwrnod ynghyd â gwyliau cyhoeddus, cynllun pensiwn hael llywodraeth leol, trefniadau gwych o weithio oriau hyblyg a chyfleoedd datblygu gyrfa.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal i bob aelod o staff, ac anogir ceisiadau gan unigolion waeth beth fo'u hoedran, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a phriodas a phartneriaethau sifil.

Rydym yn addo gwella amrywiaeth ein gweithlu ac felly'n gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr anabl, sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd ac yn dewis gwneud cais drwy ein Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd.

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein proses recriwtio yn hygyrch i bawb. Os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch ar unrhyw gam o'ch cais, cysylltwch â ni. Rydym yn croesawu ymgeiswyr sy’n defnyddio cwn cymorth a byddwn yn sicrhau y gallant fod gyda chi drwy gydol y broses recriwtio. Os oes angen unrhyw drefniadau penodol neu gymorth ychwanegol arnoch, rhowch wybod i ni a byddwn yn gwneud ein gorau i ddiwallu eich anghenion.

Nid y swydd iawn i chi? Cofiwch gael golwg ar ein gwefan am ystod eang o gyfleoedd gwirfoddoli amrywiol a diddorol ar draws y Parc.

Dyddiad Cau: 06/09/2026

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn neilltuo’r hawl i gau'r swydd wag hon yn gynnar.

Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial a Chywirdeb Gwybodaeth:

- Deallwn y gall ymgeiswyr ddewis defnyddio offer megis deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol i gynorthwyo’r gwaith o baratoi eu cais. Er y caniateir defnyddio’r cyfryw offer, cyfrifoldeb llwyr yr ymgeisydd yw sicrhau bod yr holl wybodaeth a gyflwynir yn ffeithiol gywir, yn wir, ac yn cynrychioli eu sgiliau, eu profiadau a'u cymwysterau hwy eu hunain.
- Gall cyflwyno gwybodaeth sy'n ffug, yn gamarweiniol, neu wedi'i gorliwio, p'un a gafodd y wybodaeth ei chynhyrchu gan Ddeallusrwydd Artiffisial ai peidio, olygu eich bod yn anghymwys i fod yn rhan o'r broses recriwtio neu olygu eich diswyddo os caiff hynny ei ddarganfod ar ôl penodi.
- Drwy gyflwyno'r cais hwn, rydych yn cadarnhau bod yr holl gynnwys a ddarperir yn gywir ac wedi'i gyflwyno'n ddidwyll.