A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Pennaeth Diogelwch Gweithredol / Swyddle
Swydd:
Pennaeth Diogelwch Gweithredol
Cyflog:
Hyd at £85,000 y flwyddyn
Cyfeirnod:
REC002885
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
20-11-2025

Disgrifiad Swydd

Sylwch: bydd hyblygrwydd yn y rôl hon i weithio o amrywiol leoliadau, a bydd disgwyl i chi deithio ar draws y rhwydwaith.’

 

Cyfle Cyfartal

 

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

 

Pwy ydyn ni 

 

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.

Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.

 

 

Cyfrifoldebau’r swydd

 

Bydd y Pennaeth Diogelwch Gweithredol yn gyfrifol am arwain a chyfarwyddo'r tîm o Weithredwyr proffesiynol sy'n gyfrifol am ddiffinio, crynhoi, dosbarthu, diweddaru a chynnal safonau gweithredu a safonau criwiau trenau ar gyfer gweithrediadau diogel ac effeithiol Trafnidiaeth Cymru. Byddant yn mynd ati'n weithredol i fonitro cydymffurfiad â systemau, prosesau a gweithdrefnau i sicrhau bod safonau gweithredu'n cael eu cyflawni a'u cynnal.

  • Bod yn aelod o uwch dîm arwain y gyfarwyddiaeth, gan gyflawni rôl Pennaeth Proffesiynol Diogelwch Gweithredol fel y nodir yn y System Rheoli Diogelwch, ar yr un pryd.
  • Sefydlu, datblygu a nodi'r safonau gweithrediadau busnes, criwiau trenau a diogelwch sy'n bodloni gofynion llawn safonau a Chodau Ymarfer y diwydiant drwy brofiad ac arbenigedd proffesiynol.
  • Dylunio, datblygu ac awdurdodi, lle bo angen, cyhoeddiadau gweithredu newydd a phresennol Criwiau Trenau a Pheiriannau Tracsiwn ar y cyd â Pheirianneg Fflyd TrC a'r Hyfforddiant Gweithrediadau.
  • Sefydlu system ar gyfer sicrhau, lle bo angen, bod gofynion safonau'r diwydiant yn cael eu datblygu fel safonau gweithrediadau a safonau’r cwmni a bod llawlyfrau, cyfarwyddiadau gweithio a phrosesau eraill yn cael eu diweddaru i adlewyrchu unrhyw ofynion diwygiedig.

 

Am bwy rydyn ni’n chwilio

  • Sgiliau arwain a rheoli cryf
  • Cymwys fel gyrrwr trên neu gyda phrofiad o yrru trên prif linell
  • Profiad o brosesau archwilio a deall/cydymffurfio â System Rheoli Diogelwch
  • Profiad o arwain ymchwiliadau i ddigwyddiadau cymhleth
  • Dealltwriaeth o safonau rheilffyrdd (e.e. RIS) ac arferion gorau (e.e. ymchwil RSSB)
  • Gallu gweithio ar draws swyddogaethau a chyfathrebu'n effeithiol ag amrywiaeth o randdeiliaid
  • Gallu dadansoddi a chyflwyno data'n gywir, yn enwedig ym Microsoft Excel, Word a PowerPoint

 

 

Sgiliau Iaith Gymraeg

 

Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.

 

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol.

 

 

Y camau nesaf

 

A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.

 

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

 

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.

 

* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.

 

Os ydych wedi cyflwyno cais am y rôl hon o fewn y 6 mis diwethaf ac wedi bod yn aflwyddiannus, peidiwch ag ailymgeisio oherwydd yn anffodus, ni fydd eich cais yn cael ei ystyried.

 

Sylwch fod yn rhaid i chi ddal yr hawl barhaol i weithio yn y DU. Nid ydym yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd.