A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Dylunydd Graffeg / Swyddle
Swydd:
Dylunydd Graffeg
Lleoliad:
Caernarfon, Caerdydd, Caerfyrddin
Cyflog:
£39,403
Cyfeirnod:
s4cdggd12
Math o Swydd:
Contract Tymor Penodol ( 12 Mis )
Cleient:
S4C
Dyddiad Cau:
01-09-2026

Dylunydd Graffeg - 12 mis

Pam ymuno ag S4C?

Yn S4C, rydym yn angerddol am greu amgylchedd gwaith cadarnhaol, egnïol a chynhwysol sy'n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd:

Ar Dy Orau, Balch o S4C, Dathlu Pawb, Cer Amdani.

Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno ag S4C fel Dylunydd Graffeg, gan gyfrannu at ddyfodol sy'n ysbrydoli, diddanu ac adlewyrchu Cymru gyfan wrth i ni weithredu ein strategaeth newydd - S4C - Mwy na Sianel Deledu - wrth i ni ehangu ein gwylio gyda'n cynnwys a datblygu ein gwasanaeth Digidol yn Gyntaf. 

Trosolwg o'r Swydd

Fel Dylunydd Graffeg, byddwch yn gyfrifol am ddylunio amrywiaeth o gynnwys digidol a phrint ar gyfer adran Brand a Chreadigol S4C, ochr yn ochr â chreu mân-luniau ysgogol ar gyfer ein portffolio cynyddol o blatfformau ffrydio.  Fel Dylunydd Graffeg, byddwch yn datblygu atebion gweledol creadigol ac arloesol sy'n dod â negeseuon yn fyw, yn ennyn diddordeb cynulleidfaoedd, ac yn gwella’r berthynas rhwng S4C a'i rhanddeiliaid.

Gan gyfuno barn greadigol a sgiliau argraffyddol cryf â sgiliau rheoli asedau rhagorol, byddwch yn sicrhau bod delweddau ar draws portffolio’r darlledwr yn weledol rymus, yn cyd-fynd â'r brand ac yn gwneud y defnydd gorau ohonynt ar gyfer ennyn sylw’r gynulleidfa.

Gan ddefnyddio eich arbenigedd mewn dylunio graffeg a chyfathrebu gweledol, byddwch yn creu, mireinio a rheoli asedau gweledol sy'n cefnogi’r gwaith o hyrwyddo rhaglenni, twf y gynulleidfa ac adrodd straeon corfforaethol ar draws platfformau darlledu, ffrydio, digidol a chyfryngau cymdeithasol.

Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â'n tîm creadigol wrth i ni barhau i ddatblygu ein prosesau mewnol ar gyfer dyfodol darlledu newydd sy'n cynnwys gwasanaethau ffrydio ac aml-blatfform.

Manylion eraill

Lleoliad: Caerfyrddin / Caerdydd / Caernarfon (o leiaf 2 ddiwrnod mewn swyddfa a gweithio yn y swyddfa’n barhaus am y pythefnos cyntaf ar gyfer hyfforddiant pellach - mae'r hyfforddiant hwn yn debygol o gael ei gynnal yn ein swyddfa/swyddfeydd yng Nghaerfyrddin neu Gaerdydd)

Cyflog: £39,403.00 y flwyddyn

Contract: 12 mis

Oriau gwaith:  35.75 yr wythnos. Rydym yn hapus i drafod oriau gwaith ac i ystyried ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n chwilio am waith hyblyg neu ran-amser.  Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio y tu allan i oriau swyddfa, rhai penwythnosau a gwyliau banc. 

Gwyliau: Yn ogystal â'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau. Os ydych yn cael eich cyflogi'n rhan-amser, byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.

Pensiwn: Mae gan staff cyflogedig hawl i ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn amodol ar delerau unrhyw gynllun presennol sy'n cael ei ddiwygio o bryd i'w gilydd.  Os ydych chi'n aelod o'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun.  Disgwylir i chi gyfrannu 5%. 

Teithio: Bydd teithio achlysurol yn rhan o'r swydd, fel arfer o fewn y DU

Ceisiadau

Dylid anfon ceisiadau erbyn 12yp, 1 Medi 2026.  Nid ydym yn derbyn CV.

Dyddiad Cyfweliadau: 11 Medi 2026, lleoliad i'w gadarnhau.