Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 434
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Swyddog Cymorth Grantiau
Caerdydd / Aberystwyth (gyda gweithio hybrid)
Amdanom Ni
Ni yw'r sefydliad partneriaeth cenedlaethol ar gyfer y trydydd sector yng Nghymru, a'n diben yw galluogi sefydliadau gwirfoddol i wneud gwahaniaeth mwy sylweddol gyda'i gilydd.
Gan gefnogi elusennau, mentrau cymdeithasol a sefydliadau cymunedol ledled Cymru, rydym yn helpu'r sector i gysylltu, tyfu a dylanwadu ar newid trwy gydweithio, hyfforddiant, cyllid a chymorth ymarferol, gan gryfhau'r effaith y mae sefydliadau'n ei chael o fewn eu cymunedau.
Rydym bellach yn chwilio am ddau Swyddog Cymorth Grantiau i ymuno â ni ar sail amser llawn a pharhaol, gan weithio 35 awr yr wythnos yn hyblyg. Sylwch, ar gyfer un swydd, bod sgiliau iaith Gymraeg ar lefel ganolradd neu uwch yn hanfodol; ar gyfer y llall, maent yn ddymunol.
Rydym yn treialu wythnos waith 4 diwrnod am gyfnod o 12 mis. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd ein patrwm gweithio yn 30 awr yr wythnos, o ddydd Llun i ddydd Iau. Darperir manylion pellach am y prawf yn ystod y broses recriwtio.
Eich Buddion
- Cyflog o £27,914 yn codi i £29,043 y flwyddyn, yn dilyn cwblhau cyfnod prawf yn llwyddiannus
- 25 diwrnod o wyliau â thâl, ynghyd ag 8 gŵyl banc a 5 diwrnod disgresiynol ychwanegol
- Cyfraniad pensiwn cyflogwr o 9%
- Rhaglen Cymorth i Weithwyr
- Tâl salwch gwell
- Cynllun arian parod gofal iechyd
Y Rôl
Fel Swyddog Cymorth Grantiau, byddwch yn cefnogi'r gwaith o gyflwyno ein rhaglenni grant ar gyfer sefydliadau gwirfoddol ledled Cymru i'w galluogi i wneud effaith gadarnhaol yn eu cymunedau.
Gan asesu ceisiadau am grantiau yn erbyn meini prawf a blaenoriaethau ariannu y cytunwyd arnynt, byddwch yn darparu cymorth rheng flaen i ymgeiswyr ac yn helpu i sicrhau proses deg, dryloyw a chyson.
Byddwch hefyd yn monitro sefydliadau a ariennir i sicrhau bod amodau grant a gofynion adrodd yn cael eu bodloni, gan gymryd camau cefnogol lle bo angen.
Yn ogystal, byddwch yn:
- Cefnogi paneli asesu rhoi grantiau
- Paratoi adroddiadau a gwybodaeth reoli ar gyfer rhanddeiliaid
- Sicrhau bod gweithgaredd grantiau yn bodloni gofynion archwilio a llywodraethu
- Cynhyrchu deunyddiau cyfathrebu dwyieithog i hyrwyddo'r Cronfeydd
Aamdanoch chi
I gael eich ystyried ar gyfer y swydd Swyddog Cymorth Grantiau, bydd angen y canlynol arnoch:
- Profiad o ddefnyddio systemau digidol a phrosesau gweinyddol
- Profiad o gefnogi rhaglenni, prosiectau neu wasanaethau
- Profiad o weithio'n effeithiol fel rhan o dîm a chwrdd â therfynau amser yn gyson
- Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar da
- Sgiliau rhifedd da a dealltwriaeth o weithio gyda data ariannol
- Cymhwysedd yn swyddogaethau Microsoft Excel
- Agwedd drefnus iawn
Y dyddiad cau ar gyfer y swydd hon yw 20 Hydref 2026.
Gall sefydliadau eraill alw'r swydd hon yn Swyddog Grantiau, Gweinyddwr Grantiau, Swyddog Cyllid, Gweinyddwr Cyllid, Swyddog Cymorth Rhaglen, Swyddog Cymorth Prosiect, Gweinyddwr Rhaglen, Swyddog Cymorth Cyllid, neu Swyddog Rhaglen Grantiau.
Mae Webrecruit a WCVA yn gyflogwyr sy'n hyrwyddo cyfle cyfartal, yn gwerthfawrogi amrywiaeth ac wedi ymrwymo'n gryf i ddarparu cyfleoedd cyfartal i'r holl weithwyr a'r holl ymgeiswyr am swyddi. Bydd ffurflen fonitro cyfle cyfartal ddienw yn rhan o'ch cais ac fe'i defnyddir at ddibenion monitro yn unig.
Felly, os ydych chi'n chwilio am swydd newydd fel Swyddog Cymorth Grantiau, gwnewch gais drwy'r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.