A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Peiriannydd Geo-dechnegol / Swyddle
Swydd:
Peiriannydd Geo-dechnegol
Lleoliad:
Pontypridd
Cyflog:
hyd at £46,500
Cyfeirnod:
EC01458
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
30-11-2025

Disgrifiad Swydd

 

Cyfle Cyfartal

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

Pwy ydyn ni 

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.

Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.

 

Cyfrifoldebau’r swydd

 

  • Bod yn gyfrifol am Bolisi Asedau’r Gwaith Draenio a Geo-dechnegol drwy weithio gyda’r Uwch Beiriannydd Asedau, y Pennaeth Rheoli Asedau a pheirianwyr eraill i integreiddio polisïau a Gweithdrefnau i Fframwaith System Asedau a Rheoli Asedau.
  • Llywodraethu adolygu meini prawf derbyn cynigion adnewyddu a gwella ar gyfer gwaith peirianneg geo-dechnegol drwy gadarnhau cynlluniau, derbyn cynlluniau a dychwelyd i gynnal a chadw, ynghyd â phrosesau derbyn archwilio i optimeiddio gweithgareddau peirianyddol a nodi heriau technegol o fewn y gwaith arfaethedig.
  • Bod yn gyfrifol am waith adnewyddu a chynnal a chadw Geo-dechnegol drwy adolygu ac ymgynghori ar gyllideb a chynllun adnewyddu blynyddol y Rheolwyr Seilwaith i sicrhau diogelwch ar y rheilffyrdd a gwerth am arian i Lywodraeth Cymru.
  • Llywodraethu cynigion asedau a gwaith draenio a geo-dechnegol gan bartneriaid cyflenwi TrC drwy gynnal dadansoddiad o raglen waith a darganfod y Partner Cyflenwi, drwy ymgysylltu rheolaidd i sicrhau a ydy’r cyflwyniad yn cyd-fynd â’r meini prawf ar gyfer darganfod deunyddiau ac os yw’n cynnig gwerth am arian.
  • Rhoi cyngor i’r tîm ynglŷn â rheoli asedau geo-dechnegol drwy adolygu Cynllun Rheoli Asedau a Strategaeth Rheoli Asedau Tîm y Partner Cyflenwi i sicrhau cydymffurfiad â’r Cytundeb Grant cyffredinol.
  • Cyfrannu at y Cynllun Rheoli Asedau Strategol ar gyfer cloddwaith a systemau draenio i ddarparu gweledigaeth strategol ar gyfer rheoli asedau.
  • Dilyn y datblygiadau diweddaraf mewn cysylltiad â thechnoleg ac arferion gorau rheoli asedau a’r arferion gorau mewn gweithgareddau’n ymwneud â Geo-dechnoleg, a defnyddio’r wybodaeth hon i herio'r tîm Gwasanaethau Rheilffyrdd er mwyn gwella Trafnidiaeth Cymru yn barhaus. Cynnal eich datblygiad proffesiynol eich hun a chadw eich gwybodaeth yn gyfredol o ran newidiadau rheoleiddiol a thechnegol a datblygiadau ym maes arferion gorau.
  • Gwella polisïau a gweithrediadau geo-dechnegol a rheoli asedau TrC yn barhaus drwy fod yn ymwybodol o arloesi a newidiadau deddfwriaethol i sicrhau bod TrC yn defnyddio’r dulliau ymarfer gorau.
  • Bod yn arweinydd pwnc Geo-dechnegol TrC drwy ddarparu cyngor a chymorth i’r tîm peirianneg a’r tîm Perchennog y Seilwaith yn eu gwaith o sicrhau bod gan Dîm Gweithredu a Rhanddeiliad Trafnidiaeth Cymru hyder yng ngallu Trafnidiaeth Cymru i gyflawni ei gyfrifoldebau fel Perchennog y Seilwaith.

 

Am bwy rydyn ni’n chwilio

  • Bod â chymhwyster meistr neu ôl-raddedig ac yn gweithio tuag at Siartiaeth mewn maes fel Peirianneg Geo-dechnegol, Daeareg Beirianyddol neu debyg neu brofiad cyfatebol.
  • Profiad a gwybodaeth amlwg o'r diwydiant rheilffyrdd neu drafnidiaeth
  • Profiad blaenorol o swydd sicrwydd prosiect neu gynllun
  • Gallu adolygu ymchwiliadau tir a chyflwyniadau cynlluniau.
  • Gallu dangos rheolaeth gyllidebol a sicrhau gwerth am arian.
  • Gallu rheoli rhanddeiliaid a gweithio mewn amgylchedd sy’n wleidyddol sensitif.
  • Profiad o systemau arolygu a monitro cyflwr asedau geo-dechnegol i sicrhau rheolaeth asedau ddiogel ac effeithlon.
  • Gwybodaeth a phrofiad o brosiectau peirianneg geo-dechnegol/sifil priffyrdd a rheilffyrdd.

 

Sgiliau Iaith Gymraeg

Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol

 

Y camau nesaf

A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.

 

Trafnidiaeth Cymru – yn arwain ar anableddau. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

 

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.

 

* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.