A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Cysylltydd Ystafell Gyfathrebu'r Llu / Swyddle
Swydd:
Cysylltydd Ystafell Gyfathrebu'r Llu
Lleoliad:
Cwmbran
Cyflog:
£24,222 - £31,296
Cyfeirnod:
8513
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Gwent Police
Dyddiad Cau:
16-10-2025

Sylwer: ar gyfer siaradwyr Cymraeg, mae’r prawf cenedlaethol dechreuol yn cael ei gynnal yn Saesneg. Gellir cynnal prosesau mewnol Heddlu Gwent, gan gynnwys y ganolfan asesu a’r cyfweliad trwy gyfrwng y Gymraeg. I helpu ymgeiswyr sy’n gwneud cais yn Gymraeg, awgrymwn eich bod yn newid yr iaith i’r Gymraeg ar y “Jobs Posting Board”[/p][p]Mae Cysylltwyr Ystafell Gyswllt a Rheoli'r Llu yn derbyn llawer o hyfforddiant ac maen nhw'n fedrus iawn. Maen nhw'n ymdrin â'r holl alwadau brys a dderbynnir trwy 999 a'r holl alwadau nad ydynt yn rhai brys a dderbynnir trwy 101 a'r switsfwrdd. Yn ogystal â chofnodi digwyddiadau a rhoi cyngor, mae'r cysylltwyr hefyd yn gyfrifol am anfon a rheoli adnoddau’r heddlu, gan sicrhau bod y swyddogion iawn yn y lle iawn ar yr adeg iawn. Rydym yn chwilio am ymgeiswyr brwdfrydig ac uchelgeisiol gydag ymagwedd gadarnhaol ac sy'n gallu trin pobl yn dda ar y ffôn. Hoffem annog pobl sy’n ystyried ymgeisio i wneud cais ar gyfer y Cynllun Cysgodi er mwyn cael rhagflas o’r rôl (Dolen yn adran Ymunwch â Ni gwefan Heddlu Gwent)[/p][p]Rydym yn recriwtio siaradwyr Cymraeg i gefnogi’r sefydliad wrth iddo ateb y galw gan y cyhoedd a chydymffurfio â Safonau’r Gymraeg. [/p][p]Mae llawer o wybodaeth ynglŷn â’r swyddi a’r broses recriwtio yn y dogfennau ynghlwm. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y rôl [url=