Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 434
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Teitl y Swydd: Swyddog Gweinyddol Ariannol (dros dro)
Math o gytundeb: Dros dro - 1 Mai 2026 tan 31 Awst 2026
Oriau gwaith: Llawn amser (35 awr yr wythnos)
Graddfa: Gweithredol 3: £26,204 i £28,566 y flwyddyn
Lleoliad: Un o swyddfeydd yr Urdd
Dyddiad Cau: 19 Ebrill
Dyddiad Cyfweld: Wythnos dechrau 20 Ebrill
Y Swydd
Rydym yn chwilio am Swyddog Gweinyddol Ariannol (dros dro) sy’n fanwl gywir, trefnus ac yn gymhellol, i ddarparu cefnogaeth hanfodol i’n Tîm Cyllid. Bydd y sawl llwyddiannus yn cynorthwyo gyda gweithdrefnau prosesu ariannol o ddydd i ddydd, gan sicrhau cywirdeb, effeithlonrwydd a chydymffurfiaeth â pholisïau mewnol. Mae’r rôl hon yn addas i rywun â sgiliau trefnu cryf ac agwedd ragweithiol at reoli llwyth gwaith.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Gwenno Williams (Cyfarwyddwr Cyllid) ar 07836583868 neu gwennowilliams@urdd.org
Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd a’r Ffurflen Cyfle Cyfartal wedi ei gwblhau dros e-bost at swyddi@urdd.org