A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Cyfrifydd Ariannol / Swyddle
Swydd:
Cyfrifydd Ariannol
Lleoliad:
Pontypridd
Cyflog:
hyd at £60,000 yn ddibynnol ar brofiad
Cyfeirnod:
REC002741
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
26-08-2025

Disgrifiad Swydd

Cyfle Cyfartal

 

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

Pwy ydyn ni 

 

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.

Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.

 

Cyfrifoldebau’r swydd

 

Mae’r Cyfrifydd Ariannol yn gyfrifol am sicrhau cywirdeb adroddiadau ariannol a mantolenni Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru Cyfyngedig (TfWRL), yn ogystal ag atebolrwydd yn y prosesau gweithredu cyllid.

Bydd cyfrifoldebau’r swydd yn cynnwys y canlynol, ymhlith pethau eraill:

  • Bod yn gyfrifol am lunio a dehongli datganiadau ariannol blynyddol Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru Cyfyngedig
  • Goruchwylio’r gwaith o gwblhau a chyflwyno'r ffurflenni rheoleiddio a gofynion adrodd anariannol eraill yn gywir ac yn brydlon
  • Cysylltu ag ymgynghorwyr technegol allanol ar bynciau fel rhagfantoli, pensiynau a threthi
  • Cynllunio a rheoli’r broses adrodd diwedd cyfnod ar gyfer Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru Cyfyngedig
  • Cefnogi cynhyrchiant cyfrifon rheoli cyfnodol Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru Cyfyngedig ac adroddiad Bwrdd Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru Cyfyngedig

 Am beth rydyn ni’n chwilio

  • Yn gymwys, gyda phrofiad amlwg.
  • Profiad o lunio datganiadau ariannol statudol.
  • Profiad o reoli’r broses adrodd ariannol diwedd mis.
  • Profiad o ddefnyddio adolygiadau mantolen.
  • Gwybodaeth a phrofiad o gymhwyso polisïau cyfrifyddu.
  • Sgiliau rheoli rhanddeiliaid.
  • Sgiliau EXCEL arbenigol ac yn gwybod sut i greu dangosfyrddau.
  • Sylw trylwyr i fanylion ac ymrwymiad i sicrhau y glynir wrth safonau’r brand
  • Profiad amlwg o gynllunio ymlaen llaw, creu a gweithredu cynlluniau, ynghyd â'r gallu i reoli nifer o brosiectau o fewn terfynau amser ac mewn amgylchedd cymhleth a phrysur.

 

Sgiliau Iaith Gymraeg

 

Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol

 

Y camau nesaf

A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.

Trafnidiaeth Cymru – yn arwain ar anableddau. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.

* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.