A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Dadansoddwr Busnes Cyllid - Prosesau a Pholisïau / Swyddle
Swydd:
Dadansoddwr Busnes Cyllid - Prosesau a Pholisïau
Lleoliad:
Pontypridd
Cyflog:
hyd at £50,000
Cyfeirnod:
REC01358
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
26-08-2025

Disgrifiad Swydd

Cyfle Cyfartal

 

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

Pwy ydyn ni 

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.

Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.

 

Cyfrifoldebau’r swydd

Bod yn gyfrifol am ddadansoddi prosesau busnes, canfod a dogfennu gofynion manwl, a dylunio mapiau proses 'Dyfodol' i nodi gwelliannau a datrysiadau sy'n cefnogi gweithredu systemau, gan gynnwys Dynamics 365 Finance and Operations ac integreiddiadau eraill. Mae'r Dadansoddwr Busnes Cyllid - Prosesau a Pholisïau yn gweithredu fel pont hanfodol rhwng rhanddeiliaid busnes, arweinwyr trawsnewid, perchnogion prosesau byd-eang, a phartneriaid technegol, gan sicrhau bod datrysiadau yn cael eu dylunio a'u ffurfweddu'n effeithiol i gyflawni amcanion strategol a gweithredol. Mae'r swydd hon yn sbarduno eglurder, aliniad ac yn cyflawni newidiadau i brosesau a thechnoleg yn llwyddiannus ar draws nifer o ffrydiau gwaith. Gweithio gyda’r Perchennog Prosesau Byd-eang i ddiffinio a gweithredu egwyddorion dylunio prosesau drwy ddatblygu fframweithiau cyson sy'n cysoni safonau prosesau, strwythurau data a phwyntiau penderfynu ar draws ffrydiau gwaith, gan gefnogi prosesau integredig ac effeithlon o'r dechrau i'r diwedd.

 

  • Ymgysylltu ag arbenigwyr pwnc i ddeall prosesau Presennol ar ac oddi ar y rheilffyrdd, gan nodi’r heriau cyfredol o fewn y prosesau cyfredol. Dylunio a dogfennu prosesau “Dyfodol” sydd wedi’u hoptimeiddio, gan ddefnyddio offer fel Visio i gefnogi mentrau safoni a gwella.

 

  • Bod yn brif bwynt cyswllt ar gyfer rhanddeiliaid ar draws ffrydiau gwaith rhaglenni er mwyn canfod ac egluro gofynion busnes sy'n llywio anghenion adrodd a data. Sbarduno'r gwaith o ddylunio newidiadau i brosesau sy'n cysoni llifau gwaith â strwythurau data, mesurau perfformiad a gwasanaethau diffiniedig i sicrhau adroddiadau cywir a chyson.

 

  • Nodi cyfyngiadau o ran systemau neu gyflawni a allai effeithio ar adrodd neu weithredu prosesau. Cefnogi'r gwaith o ddiffinio a chytuno ar brosesau interim i fynd i'r afael ag anghenion tymor byr a chynnal parhad busnes wrth gyflwyno datrysiadau’n raddol.

 

  • Hwyluso sesiynau adolygu a cham wrth gam gyda rhanddeiliaid busnes allweddol ar draws y rhaglen i ddilysu datrysiadau arfaethedig, gan sicrhau eu bod yn cyd-fynd â phrosesau ariannol, rheolaethau ac anghenion adrodd. Cofnodi’r opsiynau o ran datrysiadau, effeithiau a rhagdybiaethau allweddol i gefnogi llywodraethu ac i wneud penderfyniadau.

 

Am bwy rydyn ni’n chwilio

  • Gradd mewn Cyllid a Chyfrifyddu, neu brofiad cyfatebol.
  • Cymhwyster cyfrifyddu proffesiynol, ee ACCA, CIMA, ICAEW.
  • Profiad o ddogfennu mapiau proses gan ddefnyddio Visio.
  • Sgiliau rhagorol o ran dylanwadu, cyfathrebu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid.

  

Sgiliau Iaith Gymraeg

Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol

 

 

Y camau nesaf

A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.

 

Trafnidiaeth Cymru – yn arwain ar anableddau. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

 

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.

* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.

Sylwch fod yn rhaid i chi ddal yr hawl barhaol i weithio yn y DU. Nid ydym yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd.*