Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 434
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Mae’r hysbyseb hwn a’r swydd ddisgrifiad llawn ar gael yn Saesneg ac yn Gymraeg fel ei gilydd. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno ceisiadau a chyfranogi mewn cyfweliadau yn y naill iaith neu’r llall. Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd Cymraeg o dan y cynwysyddion uchod.
Rydym ar foment dyngedfennol yn ein hanes.
Cafodd National Opera Cenedlaethol Cymru ei eni yn ysbryd democratiaeth wedi’r rhyfel, wedi’i yrru gan angerdd cenedlaethol dros gyswllt dynol drwy gân. Ym mlwyddyn ei 80fed mlwyddiant, rydym wedi ymrwymo i ailddychmygu’r cwmni fel cwmni opera cyfoes, sy’n addas ar gyfer y 21ain ganrif, sydd wedi’i wreiddio yng Nghymru, ond sy’n rhyngwladol yn ei uchelgais. Rydym eisiau ailddychmygu’r hyn allai opera fod heddiw, gan sefydlu WNOCC fel grym arloesol, dewr a llawen o fewn ecoleg celfyddydau byw’r DU. Rydym eisiau hyrwyddo mwy o amrywiaeth ar ein llwyfannau ac yn ein cynulleidfaoedd a phrofi mai opera yw ffurf gelfyddydol ein hamser.
Yn y bennod nesaf yma, rydym yn chwilio am Gynhyrchydd Gweithredol eithriadol i ymuno gyda’n tîm gweithredol, gan weithio ochr yn ochr â’n Cyd-gyfarwyddwyr i ddarparu cynyrchiadau o’r radd flaenaf, dyfnhau ein perthnasoedd a thyfu cynulleidfaoedd fydd yn cynnal ein dyfodol.
Gyda’r tîm cywir ochr yn ochr â ni, credwn fod hyn yn bosib.
Yn gywir,
Eich Opera Cenedlaethol Cymru / Your Welsh National Opera
Rydym yn cydnabod bod pobl dalentog weithiau yn oedi rhag ymgeisio oni bai eu bod yn bodloni pob gofyn. Mae ymchwil yn dangos bod hyn yn arbennig o wir o ran merched, unigolion, LHDTCRhA+, pobl anabl a niwrowahanol, a rhai o gefndiroedd dosbarth gweithiol.
Os yw hon yn teimlo fel eich rôl ddelfrydol, hyd yn oed oes nad yw eich profiad yn alinio’n berffaith gyda phob un o’r meini prawf, rydym yn eich annog chi i ymgeisio beth bynnag. Gallai eich safbwynt a’ch profiad fod yn union yr hyn rydym ei angen er mwyn helpu i adeiladu cwmni opera’r dyfodol.
Mae WNOCC wedi ymrwymo i broses recriwtio hygyrch a chynhwysol. Os ydych angen unrhyw addasiadau er mwyn cefnogi eich cais neu eich cyfweliad, dylech ebostio recruitment@wno.org.uk. Rydym wedi ymrwymo i’ch cefnogi chi ar bob cam o’r broses.
Mae WNOCC yn gweithredu Cynllun Gwarantu Cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr sy’n bodloni’r meini prawf hanfodol ac sy’n hunan-adnabod fel Person o’r Mwyafrif Byd-eang, person anabl, neu fel bod yn niwrowahanol.
Gall ymgeiswyr cymwys wneud cais am ystyriaeth o dan y cynllun drwy ebostio recruitment@wno.org.uk. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y swydd ddisgrifiad.
Croesewir ymgeiswyr sydd wedi’u lleoli yn y DU neu’n rhyngwladol. Gall WNOCC gefnogi ceisiadau fisa Gweithiwr Medrus ar gyfer ymgeiswyr llwyddiannus, yn ddibynnol ar ofynion y Swyddfa Gartref a gallu ariannol. Anogir ymgeiswyr sydd angen nawdd ddynodi hyn o fewn eu cais.
Am ragor o wybodaeth, lawrlwythwch y swydd ddisgrifiad llawn os gwelwch yn dda.
Os hoffech chi gael sgwrs anffurfiol ynghylch y rôl, eich bod angen addasiadau rhesymol yn ystod y broses recriwtio, neu eich bod yn teimlo nad yw’r ffurflen gais ar-lein yn hygyrch i chi, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda: recruitment@wno.org.uk.