A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Arbenigwr ER FTC 12 mis / Swyddle
Swydd:
Arbenigwr ER FTC 12 mis
Lleoliad:
Pontypridd
Cyflog:
Hyd at £50,000
Cyfeirnod:
REC002807
Math o Swydd:
Contract Tymor Penodol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
14-10-2025

Disgrifiad swydd

Cyfle Cyfartal

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

Cyfrifoldebau’r swydd

Rheoli, cynghori a chefnogi’r gwaith o reoli achosion fel absenoldeb, cwynion a disgyblu. Lle bo angen, arwain, cefnogi, hyfforddi a chynghori'r busnes ar achosion Adnoddau Dynol cymhleth sy’n arwain at ac yn cynnwys achosion ffurfiol – fel ymchwiliadau, gwrandawiadau ac apeliadau cymhleth – ac unrhyw achosion ACAS a/neu’r Tribiwnlys Cyflogaeth a all ddeillio o hynny. 

Bydd cyfrifoldebau’r swydd yn cynnwys y canlynol, ymhlith pethau eraill:

  • Rheoli achosion sy’n ymwneud â chysylltiadau gweithwyr (disgyblu, perfformiad, absenoldeb, cwynion, rheoli absenoldeb ac ati) o'r dechrau i'r diwedd a’u cau’n amserol. Meddwl am syniadau gwreiddiol ac atebion arloesol drwy ddarparu gwybodaeth a chyngor arbenigol

 

  • Adnabod, cynnig a gweithredu datblygiadau a gwelliannau i'r maes, uned neu brosiect er budd TrC a’r mentrau arweiniol, er mwyn gwella prosesau busnes

 

  • Nodi risgiau o fewn eich cylch gwaith eich hun, lliniaru risgiau, a rhoi cyngor i eraill ar unrhyw risgiau a nodir. Bydd angen dealltwriaeth drylwyr arnoch o ddeddfwriaeth Cysylltiadau Gweithwyr a chanllawiau cysylltiedig er mwyn lliniaru risgiau.  Yn ogystal, byddwch yn arwain y gwaith o reoli achosion y Tribiwnlys Cyflogaeth o ddydd i ddydd

 

  • Sicrhau bod yr holl weithgareddau'n cael eu cofnodi'n gywir ar y system rheoli achosion, a bod Partneriaid Busnes Adnoddau Dynol, y Pennaeth Adnoddau Dynol a rhanddeiliaid allweddol eraill yn cael eu diweddaru'n rheolaidd yn eu cylch. Ar ben hynny, dadansoddi metrigau, data a thueddiadau sy'n ymwneud â phobl er mwyn gwneud argymhellion i Bartneriaid Busnes, a chynnal ymyriadau gyda rheolwyr pobl i fynd i'r afael â materion pobl a nodir ar draws y busnes

 

  • Rheoli Rhanddeiliaid – Cysylltu ag asiantaethau/swyddogaethau allanol, fel cynrychiolwyr cyfreithiol ac undebau llafur, ynglŷn â materion pobl sy’n ymwneud â gweithdrefnau a pholisïau, a sicrhau bod rheolwyr pobl yn gweithio o fewn y polisi a’r gweithdrefnau a ddiffinnir

 

 

Am beth rydyn ni’n chwilio

  • Aelod Siartredig o’r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD) neu gyfwerth
  • Gwybodaeth drylwyr am yr arferion gorau ym maes Adnoddau Dynol yn gyffredinol, ac am y ddeddfwriaeth cyflogaeth ddiweddaraf
  • Profiad helaeth o ddatrys gwaith achos cymhleth a chynnal cysylltiadau da â gweithwyr
  • Profiad o roi newid diwylliannol pellgyrhaeddol ar waith mewn sefydliad
  • Agwedd gadarnhaol, greadigol tuag at waith; sgiliau negodi amlwg; a hyder i reoli cysylltiadau ar bob lefel.

 

Sgiliau Iaith Gymraeg

Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol

 

Y camau nesaf

A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.

Trafnidiaeth Cymru – yn arwain ar anableddau. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.

* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.