Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 434
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Helpwch ni i gyflawni cyfraniad Cymru tuag at y nod byd-eang o warchod 30% o amgylcheddau tir, dŵr croyw a morol erbyn 2030. Gan weithio fel rhan o waith CNC yn cynorthwyo’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, byddwch yn helpu i greu cynlluniau rheoli ymarferol ar gyfer safleoedd dynodedig ac yn gweithio’n uniongyrchol gyda ffermwyr i nodi camau gweithredu sy’n fuddiol i gynefinoedd, rhywogaethau a’r amgylchedd ehangach.
Rydym yn recriwtio Swyddogion yr Amgylchedd ar draws gorllewin y canolbarth, dwyrain y canolbarth a de-orllewin Cymru, am gyfnod penodol tan 31 Mawrth 2027, gyda'r posibilrwydd o barhaolrwydd. Bydd y rolau hyn wedi’u lleoli yn ein safleoedd yn Aberystwyth, y Trallwng a Plas Gwendraeth.
Byddwch yn darparu arbenigedd technegol mewn rheoli safleoedd gwarchodedig, gan gynnwys gwaith rheoleiddio (caniatadau a chydsyniadau), cyngor rhagweithiol ar gadwraeth, a datblygu partneriaethau a chytundebau rheoli. Bydd eich rôl yn cefnogi blaenoriaethau bioamrywiaeth CNC ac yn cynnig mewnbwn arbenigol i gydweithwyr a phrosiectau ar draws y sefydliad.
Efallai y byddwch hefyd yn cyfrannu at reolaeth amgylcheddol ehangach, gan gynnwys ymateb i ddigwyddiadau, rheoli adnoddau dŵr ac ansawdd tir a dŵr, a gwneud gwaith sy’n gysylltiedig â chyflawni canlyniadau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr.
Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â thimau gweithredol sefydledig ac yn chwarae rhan allweddol wrth wella canlyniadau amgylcheddol ar lawr gwlad.
Mae gyrru yn rhan hanfodol o'r swydd hon gan y bydd angen i chi ymweld â safleoedd anghysbell i ffurfio barn er mwyn galluogi rhoi caniatâd neu drwydded. Rhaid i chi gael trwydded yrru llawn a chyfredol y DU.
Byddwch yn cael eich contractio i’r lleoliad CNC sydd wedi’i nodi yn yr hysbyseb hon, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch ag Carol Fielding at carol.fielding@cyfoethnaturiol.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i'r dyddiad cau.
Yn Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), mae ein gweledigaeth yn syml ond yn uchelgeisiol: creu dyfodol lle mae pobl a byd natur yn ffynnu gyda’i gilydd. Mae popeth a wnawn yn cael ei yrru gan y gred bod amgylchedd naturiol ac iach yn sail i economi gref, cymunedau gwydn, ac ansawdd bywyd llewyrchus i bawb yng Nghymru.
Rydym yn chwarae rhan ganolog wrth gefnogi Llywodraeth Cymru i ddatblygu a chyflawni’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, menter a gynlluniwyd i greu buddion i natur, pobl a’r economi wledig yn y tymor hir. Drwy’r gwaith hwn, rydym yn helpu i lunio dyfodol mwy cynaliadwy i amaethyddiaeth Cymru, gan sicrhau bod rheoli tir yn cefnogi bioamrywiaeth, yn mynd i’r afael â newid hinsawdd, ac yn gwella llesiant cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.
Mae ein timau’n angerddol, yn wybodus, ac yn rhannu’r un amcanion, sef gwarchod, adfer a gwobrwyo tirweddau ac asedau naturiol anhygoel Cymru. Os ymunwch â ni, byddwch yn rhan o sefydliad sy’n edrych at y dyfodol lle mae eich cyfraniad yn cefnogi’n uniongyrchol ddyfodol gwyrddach, tecach a mwy cynaliadwy.
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
Hanfodol: B2 - Lefel ganolradd uwch
Noder: Os nad ydych chi’n bodloni gofynion lefelau’r Gymraeg ar gyfer y rôl hon, ni fydd eich cais yn cael ei roi ar y rhestr fer.