A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Anogwr Cyflogadwyedd (Hanfod y Gymraeg) / Swyddle
Swydd:
Anogwr Cyflogadwyedd (Hanfod y Gymraeg)
Lleoliad:
Cymru
Cyflog:
£26,276–£28,256
Cyfeirnod:
GCACC10726
Math o Swydd:
Parhaol ( Cyswllt/CGC )
Cleient:
Careers Wales Gyrfa Cymru (Career Choices Dewis Gyrfa)
Dyddiad Cau:
26-07-2026

Anogwr Cyflogadwyedd (Hanfod y Gymraeg) – Cyswllt/CGC

Cyflog: £26,276–£28,256
Cyflog Cychwynnol £26,276

 

Ydych chi’n edrych am swydd lle rydych yn ysbrydoli a chynorthwyo pobl i feddwl am eu gyrfa yn y dyfodol? A oes gennych sgiliau gwasanaethau cwsmeriaid rhagorol? Os felly, rydym yn edrych am gyfathrebwyr hyblyg ac effeithiol sydd yn  gartrefol yn cyfathrebu â chwsmeriaid   drwy defnyddio cyfathrebu digidol (dros y ffôn, dros y we neu’r cyfryngau cymdeithasol) er mwyn darparu gwybodaeth a chyngor i’n cwsmeriaid.

Mae Career Choices Dewis Gyrfa Cyf (CCDG) yn is-gwmni ym mherchnogaeth Llywodraeth Cymru. Rydym yn darparu cyfarwyddyd a hyfforddiant gyrfaoedd hanfodol, annibynnol, di-duedd a dwyeithog i bobl o bob oedran yng Nghymru, gan gynnwys rhaglen Cymru'n Gweithio.    

 

Mae gennym dau swydd llawn amser yn ein tîm Cyswllt Gyrfa Cymru (CGC).  Oriau gwaith swydd llawn amser yw 37 awr yr wythnos, o ddydd Llun i ddydd Gwener.  Mae’r gwasanaeth CGC ar agor o 9yb tan 5yh, felly bydd disgwyl i ddeiliaid swyddi weithio i gynnal yr oriau agor yma ar sail rota.

Mae'r swyddi hyn yn rhai digidol, felly gall yr ymgeiswyr llwyddiannus gael eu leoli unrhyw le yng Nghymru. Bydd y rolau hyn yn golygu gweithio o'r cartref yn bennaf, ond byddwch yn cael eich neilltuo i ganolfan a bydd angen i chi fynychu swyddfa yn ôl gofynion y busnes.

Sgiliau iaith Gymraeg: Mae'r gallu i siarad a gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swyddi hyn.  Byddwch chi'n gallu deall a chyfathrebu'n glir ar bynciau bob dydd a phynciau sy'n gysylltiedig â gwaith, cynnal sgyrsiau, ac egluro syniadau, profiadau a chynlluniau yn hyderus.


Ymysg y buddiannau deniadol mae oriau hyblyg, 31 diwrnod o wyliau (pro rata ar gyfer cyflogeion rhan amser), cynllun pensiwn cyfrannol a chynllun arian yn ôl sy’n gysylltiedig ag iechyd.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda grŵp amrywiol o gleientiaid gan gynnwys pobl ifanc yn eu blwyddyn olaf o addysg sydd am symud ymlaen i waith neu hyfforddiant; rhieni; oedolion di-waith sydd yn chwilio am gymorth i gael gwaith  ac oedolion sy’n awyddus i newid eu gyrfa. 

Mae ein Anogwyr Cyflogadwyedd 
•     yn cefnogi ac ysbrydoli eu cleientiaid i sicrhau’r yrfa orau bosibl sydd ar gael iddynt;
•     yn darparu gwybodaeth a chyngor i gefnogi cleientiaid i reoli eu gyrfaoedd;
•     yn darparu cymorth cyflogadwyedd (cymorth gyda chreu CV, gweithgareddau chwilio am swyddi ayb)i’r rhai sy’n dymuno dychwelyd i’r gwaith neu newid swyddi;
•     yn helpu cleientiaid i gyflawni eu canlyniadau cadarnhaol cynaliadwy (addysg, hyfforddiant, cyflogaeth). 


Dylai Anogwyr Cyflogadwyedd fod wedi’u haddysgu i safon NVQ 3 neu gymhwyster cyfatebol, yn ddelfrydol mewn maes cysylltiedig, neu fod â phrofiad o weithio ar y lefel hon. Os nad oes gennych Ddiploma Lefel 4 mewn Gwybodaeth a Chyngor Gyrfa eisoes, byddwn yn darparu’r hyfforddiant a’r cymorth sydd ei angen arnoch i ennill y cymhwyster gwerthfawr hwn. 

 
Gofynion ychwanegol
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Datgeliad Sylfaenol drwy'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Ein hymrwymiad i gynhwysiant
Rydyn ni fel cenedl yn ffynnu pan fyddwn yn hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant.  Mae sefydliadau sydd â gweithlu amrywiol yn gwneud gwell penderfyniadau, yn fwy creadigol, yn gadarnach, yn hapusach fel y cyfryw – ac, wrth gwrs, dyna’r peth cywir i’w wneud.  Gall amrywiaeth a chynhwysiant fod yn weddnewidiol, gan gyfrannu at gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel, a sicrhau gwelliant parhaus yn yr hyn rydyn ni’n ei wneud dros bobl Cymru. Rydyn ni wedi ymrwymo i gael gweithlu sy’n gynrychioliadol o’r dinasyddion rydyn ni’n eu gwasanaethu, a hynny yn ein holl swyddi, beth bynnag fo’u gradd.  Anogir pobl o gefndiroedd amrywiol i wneud cais am swyddi gwag gyda Gyrfa Cymru.

Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Ni fydd cais a wneir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Ni fydd unrhyw ymgeisydd am swydd yn derbyn triniaeth lai ffafriol ar sail oed, anabledd, rhywedd a hunaniaeth o ran rhywedd, hil ac ethnigrwydd, crefydd a chredo (yn cynnwys dim credo), statws priodasol neu bartneriaeth sifil, statws economaidd neu dueddiad rhywiol.   

Ein nod yw hyrwyddo amgylchedd sy’n rhydd o bob math o wahaniaethu, ac sy’n trin pobl yn deg gydag urddas a pharch. Mae’r ymrwymiad hwn yn dechrau gyda’r broses recriwtio ac yn cael ei gynnal trwy’r holl arferion cyflogaeth, ac yn y pen draw i’r gweithle – gan gefnogi a gwella bywydau pobl Cymru.

Sut i wneud cais

Lawrlwythwch y swydd-ddisgrifiad drwy glicio'r botwm Lawrlwytho Dogfennau, neu cliciwch Ceisio Nawr i fynd i wefan y cyflogwr.

Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn hanner nôs ar 26 Gorffennaf 2026.

Cyfweliadau / asesiadau i’u cynnal ar 04/08/2026 – 07/08/2026. 


Ewch i Safle Recriwtio Gyrfa Cymru am fanylion ein swyddi gwag. Gallwch hefyd ddysgu mwy amdanom ni, ein polisi cyflogaeth a'n telerau ac amodau.

Er gwybodaeth, nid ydym yn derbyn ceisiadau ar ffurf CV.