A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Rheolwr Tim Gyrwyr (rhanbarth Cambrian) / Swyddle
Swydd:
Rheolwr Tim Gyrwyr (rhanbarth Cambrian)
Lleoliad:
Cymru
Cyflog:
Cystadleuol
Cyfeirnod:
REC002801
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
20-10-2025

Disgrifiad Swydd

Sylwer: dim ond i ymgeiswyr sy’n gweithio yn Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru Cyfyngedig y mae’r swydd hon ar gael. Os nad ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd hon, ni fydd eich cais yn cael ei ystyried.  
 
Cyfrifoldebau’r rôl
 
Mae gennym gyfle secondiad am 3 mis i ymuno â'n Rheolwyr Tîm Gyrrwr, sy'n arwain ac yn ysbrydoli tîm o yrwyr trên ar draws rhanbarth y Cambrian (gan gynnwys Pwllheli a Machynlleth).  Mae'r rôl yn ddiddorol ac amrywiol:
 
  • Mae angen ffocws cryf ar reoli pobl
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol i sicrhau bod eich tîm yn llawn cymhelliant i ddarparu gwasanaeth rhagorol i’n busnes ac i’n cwsmeriaid
  • Ffocws cryf ar sicrhau bod y safonau diogelwch a pherfformiad uchaf yn cael eu cynnal a’u cefnogi’n drylwyr gan eich tîm
  • Gweithio fel rhan o dîm agos o reolwyr gyrwyr a gweithio’n agos hefyd gyda rheolwyr eraill ar draws y busnes fel Perfformiad, Diogelwch, Gwasanaeth i Gwsmeriaid ac Adnoddau Dynol, a rheoli’r berthynas â rhanddeiliaid allweddol fel Network Rail
 
Yr ymgeisydd llwyddiannus
 
Os ydych chi’n unigolyn sy’n canolbwyntio ar y cwsmer ac sy’n sicrhau ei fod wrth wraidd yr holl benderfyniadau rydych chi’n eu gwneud, efallai mai dyma’r swydd i chi. Bydd yr unigolyn llwyddiannus yn cael cyfle i chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ail-lunio swyddogaeth y gyrwyr wrth symud ymlaen.
 
Gofynion hanfodol i’w hystyried ar gyfer y swydd hon:
 
Rhaid i chi fod yn Yrrwr Trên Cymwysedig gydag o leiaf 3 blynedd o brofiad.
 
Y camau nesaf
 
Mae hwn yn gyfle cyffrous i’r person iawn. Os ydych chi eisiau her newydd a bod gennych chi’r angerdd a’r egni angenrheidiol, ewch amdani!
 
I gael rhagor o wybodaeth, gweler y disgrifiad swydd sydd ynghlwm.