Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 434
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Comisiynydd Drama
Pam ymuno â S4C?
Yn S4C, rydyn ni’n angerddol am greu amgylchedd gwaith positif, egnïol a chynhwysol sy’n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd:
Ar Dy Orau, Balch o S4C, Dathlu pawb, Cer Amdani.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â’n tîm wrth i ni gyflwyno ein strategaeth cynnwys newydd aml-blatfform. Rydyn ni'n chwilio am unigolyn dynamig, creadigol a brwdfrydig sy’n byw ein gwerthoedd craidd i ymuno â’n tîm Comisiynwyr.
Trosolwg y Swydd
Dyma gyfle arbennig i unigolyn creadigol profiadol arwain ar ddatblygu a chomisiynu dramâu yn y Gymraeg ar S4C. O’r dyddiau cyntaf mae dramâu S4C wedi ennyn clod a chefnogaeth y gwylwyr. Rydym yn chwilio am unigolyn profiadol ymhob agwedd o fyd drama sydd yn greadigol a gyda profiad hir o gyfleu cynyrchiadau mawr ar amser ac ar gyllideb. Gall drama ddiddanu ond dylai hefyd herio, gall drafod pynciau hanesyddol Cymru a phortreadu ei hardaloedd amrywiol ar sgrin, y tirlun a chymunedau.
Mae’n operâu sebon yn ran allweddol o’n cynnwys a dylai fod gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad ohonynt a meddu ar adnabyddiaeth a dealltwriaeth ddwfn o gynyrchiadau o’r math hyn.
Yn y tirlun digidol bydd angen ymchwilio i’r cyfleon sydd i arbrofi a gwthio ffiniau. Rydym yn chwilio am unigolyn all feddwl yn flaengar a gwreiddiol, yng Nghymru ac yn rhyngwladol tra’n meithrin y genhedlaeth nesaf o awduron a chyfarwyddwyr o bob cwr o’r wlad yn y Gymraeg.
Manylion eraill
Lleoliad: Caerfyrddin / Caerdydd / Caernarfon (o leiaf 3 ddiwrnod yn y swyddfa)
Cyflog: Cyflog cystadleuol yn ddibynnol ar sgiliau a phrofiad. Bydd y cyflog dim llai na £70,000 y flwyddyn. Mae croeso i chi gysylltu â thîm Pobl a Diwylliant ar pobl@s4c.cymru am rhagor o fanylion am amodau a thelerau’r swydd
Cytundeb: 4 blwyddyn yn y lle cyntaf
Oriau gwaith: 35.75 yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
Cyfnod prawf: 3 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Teithio: Bydd teithio rhwng swyddfeydd, ar ymweliadau ac i ddigwyddiadau yn rhan o’r swydd, fel rheol o fewn y Deyrnas Unedig ac yn achlusurol, yn rhyngwladol.
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 9.00 ar ddydd Llun 27 Gorffennaf 2026 at Pobl@s4c.cymru neu at Adran y Bobl a Diwylliant, S4C, Canolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Nid ydym yn derbyn CV.
Ein bwriad ar hyn o bryd yw cyrraedd rhestr fer yn fuan ar ôl y dyddiad cau, gyda cyfweliadau wedi’u cynllunio ar gyfer canol mis Awst yn dibynnu ar argaeledd ymgeiswyr. Gofynnwn yn garedig i chi nodi unrhyw dyddiadau nad ydych chi ar gael yn ystod mis Awst. Fodd bynnag, rydym yn canolbwyntio ar ddod o hyd i’r unigolyn cywir ar gyfer y rôl ac mae’n bosibl y bydd angen addasu’r amserlen os bydd angen.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.