Swydd:
Newyddiadurwr Digidol S4C
Lleoliad:
Caernarfon, Caerdydd, Caerfyrddin
Cyflog:
O gwmpas £28,000 - £32,000 y flwyddyn
Cyfeirnod:
20241112S4C
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
S4C

Pwrpas y Swydd

Byddwch yn rhan o dîm o newyddiadurwyr digidol sydd yn dod a’r newyddion diweddaraf i gynulleidfa Gymraeg o amrywiol ffynonellau. Y nod yw cyrraedd a gwasanaethu cynulleidfa iau, ar ffurf fideo a thestun.

Bydd gennych ddiddordeb mawr mewn creu cynnwys ar gyfer sawl platfform digidol o TikTok, i Instagram, Facebook ac X.

 

 

Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau

  • Pecynnu cynnwys newyddion mewn arddull cyfoes Digidol.
  • Ysgrifennu penawdau bachog.
  • Creu cynnwys digidol unigryw fydd yn adrodd straeon a phrofiadau unigolion.
  • Pecynnu straeon ac uchafbwyntiau chwaraeon.
  • Cynnig syniadau am straeon.
  • Rheoli ffrydiau byw ar y cyfryngau Cymdeithasol.
  • Ffilmio a golygu cyfweliadau a lluniau.
  • Meddwl yn greadigol am sut i gael y gynulleidfa fwyaf posib at ein cynnwys.
  • Ymateb i ddata defnyddwyr er mwyn gwerthuso llwyddiant y cynnwys sy’n cael ei gyhoeddi.
  • Dod o hyd i gyfranwyr ar ystod eang o straeon.
  • Gweithio fel rhan o dîm i ymateb i straeon sy’n torri.

 

Fel aelod o staff S4C byddwch hefyd yn:

  • Ymwybodol o strategaeth S4C, a sicrhau eich bod yn cymryd cyfrifoldeb personol i ddilyn ein holl bolisïau a gweithdrefnau yn ôl y gofyn sy’n cynnwys gweithio o fewn canllawiau Iechyd a diogelwch, amrywiaeth a chynhwysiant, gwarchod data, canllawiau ariannol ac yn y blaen.
  • Cyfrannu mewn ffordd bositif tuag at ddiwylliant a chyflawni strategaeth S4C.
  • Cydweithio gyda’ch rheolwr llinell a bod yn rhagweithiol wrth reoli a datblygu eich perfformiad eich hun.
  • Sicrhau eich bod yn gweithio mewn ffordd gadarnhaol, gydweithredol, draws-sefydliadol, sy'n datblygu gwasanaethau gwych i'n gwylwyr ar bob platfform ac yn sicrhau amgylchedd gwaith cadarnhaol, egnïol a chynhwysfawr sy’n trin pawb gyda pharch.
  • Cyfrannu at a chefnogi defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle.

 

Manyleb Person

Nodwedd Hanfodol Dymunol

Profiad

Profiad o gynhyrchu cynnwys digidol.

 

Profiad o weithio yn y maes newyddion.

Sgiliau a Gwybodaeth

Diddordeb a dealltwriaeth o gyfryngau digidol.

Diddordeb a dealltwriaeth o newyddion Cymreig a byd eang.

Y gallu i gyfathrebu yn glir ag amrywiaeth o gynulleidfaoedd trwy rwydweithiau cymdeithasol.

Ymwybyddiaeth o feddalwedd golygu fideo.

Y gallu i gyfathrebu yn rhugl yn y Gymraeg a Saesneg i safon dda gyda staff ac eraill ar bob lefel, yn ysgrifenedig ac ar lafar.

Dealltwriaeth ymarferol o gyfryngau cymdeithasol a llwyfannau digidol (e.e. YouTube, Facebook, Twitter, Instagram Tik Tok)..

Y gallu i ddefnyddio pecynnau meddalwedd golygu fideo ar unrhyw lefel e.e. Adobe Premiere, Avid, ShotCut.
Nodweddion Personol

Trefnus.

Creadigol.

Y gallu i weithio o fewn amserlenni tynn.
Medru gweithio’n annibynnol.
Yn fodlon gweithio y tu hwnt i oriau swyddfa arferol yn gyson.

 

 

 

Manylion Eraill

Lleoliad: Canolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ neu Ganolfan S4C yn Doc Fictoria, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1TH. Mae hefyd gennym swyddfa yng Nghaerdydd. Rydym yn cynnig trefniadau gweithio’n ‘hybrid’ ynghyd ag ystod eang o batrymau hyblyg gwahanol.

Cyflog: O gwmpas £28,000 - £32,000 y flwyddyn, yn ddibynnol ar brofiad.

Cytundeb: 6 mis

Oriau Gwaith: 7 diwrnod yr wythnos yn ôl patrwm sifft.

Cyfnod Prawf: 3 mis

Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.

Pensiwn: S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, gyda’ch cyfraniad o 5%.

 

 

Ceisiadau

Dylid anfon ceisiadau erbyn 12.00 ar ddydd Mawrth 19 Tachwedd 2024 at Pobl@s4c.cymru neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.

Dyddiad Cyfweliadau: 22 Tachwedd 2024

 

 

Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth

Nid yw S4C yn caniatáu gwahaniaethu ar sail rhyw, hil, lliw, anabledd, cefndir ethnig neu economaidd-gymdeithasol, oedran, ac ati.