Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 325
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Pam ymuno â S4C?
Mae S4C yn fwy na sianel deledu – rydym yn darparu gwasanaeth cyhoeddus unigryw sy’n chwarae rhan ganolog ym mywyd diwylliannol, democrataidd a chymdeithasol Cymru.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â S4C, wrth i ni weithredu ein strategaeth newydd ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Rydym yn ehangu gwylio gyda’n cynnwys, yn datblygu’n wasanaeth digidol-yn-gyntaf, ac yn ymestyn ein heffaith y tu hwnt i’r sgrin gan gyfrannu’n gadarnhaol at ffyniant yr iaith, diwylliant Cymru a’r economi greadigol.
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, trefnus a dibynadwy i ymuno â ni fel Newyddiadurwr Digidol. Fel rhan o dîm arloesol byddwch yn cyfrannu at ddatblygu’r gwasanaeth newyddion digidol.
Yn S4C, rydym ni’n angerddol am greu amgylchedd gwaith positif, egnïol a chynhwysol sy’n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd:
Ar Dy Orau, Balch o S4C, Cer Amdani, Dathlu Pawb.
Byddwch yn ymuno â S4C ar adeg o newid cyffrous, gan gyfrannu at ddyfodol cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus sy’n ysbrydoli, diddanu ac adlewyrchu Cymru gyfan.
Trosolwg y Swydd
Byddwch yn rhan o dîm sydd yn cynhyrchu straeon newyddion gwreiddiol yn ogystal â dod a’r newyddion diweddaraf i gynulleidfa Gymraeg a Chymreig. Y nod yw cyrraedd a gwasanaethu cynulleidfa fwy eang a iau, ar ffurf fideo a thestun.
Bydd gennych ddiddordeb mawn mewn creu cynnwys ar gyfer sawl platfform digidol o Tik Tok, i Instragram. Facebook ac X, ac mewn amser ar gyfer You Tube.
Bydd disgwyl bod gennych dealltwriaeth da o gyfryngau cymdeithasol yn ogystal â diddordeb mewn newyddion Cymreig a byd eang.
Manylion eraill
Lleoliad: Caerfyrddin / Caerdydd / Caernarfon (o leiaf 2 diwrnod mewn swyddfa)
Cyflog: £31,930-£33,983 y flwyddyn
Cytundeb: Parhaol
Oriau gwaith: 35.75 yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
Cyfnod prawf: 6 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Teithio: Bydd teithio achlysurol yn rhan o’r swydd, fel rheol o fewn y Deyrnas Unedig
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 9.00am ar ddydd Llun 2 Chwefror 2026 at Pobl@s4c.cymru neu Pobl a Diwylliant, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Nid ydym yn derbyn CV.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.