A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

/ Swyddle
Swydd:
Swyddog Cynnwys Digidol
Lleoliad:
Llanberis
Cyflog:
£17,336.92 - £21,358.70
Cyfeirnod:
ELDYC1910/RB
Math o Swydd:
Dros Dro
Cleient:
Webrecruit
Dyddiad Cau:
19-10-2025

Swyddog Cynnwys Digidol, Amgueddfa Lechi Cymru

Math o swydd wag: Dros Dro/Rhan Amser
Categori: Digidol (Cyfryngau Digidol)
Ystod cyflog: Gradd D: £17,336.92 - £21,358.70
Oriau: 21 awr yr wythnos
Gofyniad lefel iaith Gymraeg: Cymraeg yn hanfodol – hyfedredd

Crynodeb o'r Swydd

Cyfrifoldeb y Swyddog Cynnwys Digidol yw darparu gweithgareddau a phrofiadau digidol fel rhan o ailddatblygiad Amgueddfa Lechi Cymru. Byddwch yn cynllunio, comisiynu a chynhyrchu cynnwys ar-lein ac ar safle Amgueddfa Lechi Cymru, yn cynnwys y wefan, apiau ffonau symudol, a phrofiadau ar y safle. Byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth hyfforddi a hwyluso eraill i gynhyrchu cynnwys ar gyfer ein platfformau digidol.

Prif dasgau a chyfrifoldebau

- Cydlynu’r gwaith o greu cynnwys i’w ddefnyddio ar blatfformau digidol yr Amgueddfa, ar-lein ac ar y safle.
- Creu a chwblhau projectau bach mewn amgylchedd hyblyg sy’n newid yn gyflym, gan sicrhau bod cynnyrch yn cael ei brofi a’i ddatblygu’n barhaus.
- Cysylltu â chymunedau lleol ac ar-lein a’u cymell i ymwneud ag Amgueddfa Lechi Cymru a’i chasgliadau.
- Cysylltu a rheoli llif gwaith gyda thrydydd partïon y byddwn yn eu comisiynu i greu cynnyrch digidol ar ein rhan.
- Dylunio taith y defnyddiwr mewn ymateb i ymddygiad ac anghenion, a’i chyfleu i staff a’i defnyddio i lywio datblygiadau digidol y dyfodol.
- Hyfforddi staff i greu a diweddaru cynnwys digidol i safonau a bennir gan yr Adran Cyfryngau Digidol.
- Sicrhau bod profiadau digidol yn cyd-fynd â Strategaeth Ddigidol LleCHi LleNi ar gyfer Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru.
- Deall sut y gall prosesau mewnol y sefydliad fod yn fwy effeithlon er mwyn arbed arian a chynyddu llwyddiant masnachol Amgueddfa Cymru.
- Cefnogi’r tîm Digidol i gyflawni prif gyfrifoldebau a phrojectau adrannau.
- Helpu i roi’r Strategaeth Data a Thechnoleg Ddigidol ar waith.