Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 434
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Rydym yn chwilio am Grëwr Cynnwys Digidol creadigol, cyflym a manwl i ymuno â thîm digidol Tinopolis Cymru yn Llanelli.
Byddwch yn creu, golygu, pecynnu a chyhoeddi cynnwys deniadol ar gyfer cyfryngau cymdeithasol y cwmni, gan roi blaenoriaeth ddyddiol i Heno a Prynhawn Da. Byddwch yn gweithio’n agos gyda thimau golygyddol a chynhyrchu i greu fideos fertigol gwreiddiol, ail-lunio deunydd rhaglenni a chefnogi ffilmio digidol-yn-gyntaf.
Mae hon yn rôl ymarferol i rywun sydd â chrebwyll golygyddol cadarn, sgiliau golygu digidol hyderus a’r gallu i gyflawni gwaith creadigol o safon ar amserlen brysur.
• Creu fideos fertigol gwreiddiol ar gyfer llwyfannau cymdeithasol Tinopolis Cymru.
• Clipio, golygu ac ail-lunio deunydd Heno, Prynhawn Da a chynyrchiadau eraill ar gyfer cynulleidfaoedd digidol.
• Cefnogi a chyflawni sesiynau ffilmio digidol-yn-gyntaf, gan gynnwys defnyddio kit iPhone/Osmo.
• Ysgrifennu capsiynau a chopi Cymraeg cywir, naturiol ac addas i lais y rhaglen a’r llwyfan.
• Ychwanegu isdeitlau, testun ar y sgrin a graffeg syml, a pharatoi thumbnails deniadol.
• Dewis fformatau a thestun addas, amserlennu cyhoeddi a chynnal rhythm cyhoeddi dibynadwy drwy gydol y dydd.
• Sicrhau bod cynnwys yn gywir yn olygyddol, yn hygyrch, wedi’i glirio o ran hawliau ac yn gyson yn weledol.
• Cadw cofnodion cyfredol o asedau, fersiynau, cymeradwyo a chyhoeddi.
• Ymateb i flaenoriaethau sy’n gallu newid yn sydyn ac addasu’n gyflym .
• Cyfrannu syniadau ymarferol a chreadigol ar gyfer cynnwys a chefnogi cynyrchiadau yn unol â briffiau.
• Defnyddio ymateb y gynulleidfa a data perfformiad i wella cynnwys a phenderfyniadau cyhoeddi.
• Cyflawni gwaith yn unol â’r blaenoriaethau a’r amserlen a bennir gan Arweinydd y Tîm Cynnwys Digidol.
Hanfodol:
• Sgiliau Cymraeg llafar ac ysgrifenedig cryf.
• Gallu hyderus i olygu fideo yn Premiere Pro neu feddalwedd golygu debyg.
• Profiad o greu a phecynnu cynnwys ar gyfer llwyfannau cyfryngau cymdeithasol.
• Profiad o offer cyhoeddi cymdeithasol a chynhyrchu cynnwys gyda dyfeisiau symudol.
• Crebwyll golygyddol cadarn, sylw rhagorol i fanylion a gallu i wirio cywirdeb.
• Dealltwriaeth o isdeitlau, hygyrchedd, hawliau, caniatâd a phrosesau cymeradwyo.
• Gallu ysgrifennu capsiynau a chopi deniadol, cywir a phriodol i’r llwyfan.
• Gallu gweithio’n gyflym, trefnu sawl tasg ac ymateb yn dawel i flaenoriaethau newidiol.
• Agwedd gydweithredol a’r gallu i dderbyn adborth a gweithio’n unol â briff ac amserlen.
Dymunol:
• Profiad o greu cynnwys ar gyfer rhaglenni teledu, cynnwys byw neu raglenni cylchgrawn.
• Sgiliau sylfaenol mewn graffeg, dylunio thumbnails neu animeiddio testun.
• Profiad o ddefnyddio data perfformiad i brofi a gwella cynnwys cymdeithasol.
Rydym yn gwmni sy’n awyddus i adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, ac rydym yn credu mewn amrywiaeth a chyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o bob oedran, cefndir ethnig, anabledd, rhywioldeb a chefndir cymdeithasol, yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010.
Lleoliad: Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli SA15 3YE
Cyflog: Yn ddibynnol ar brofiad
Dyddiad Cau: 4 Medi 2026
Manylion Pellach
Oriau Gwaith: Cyfartaledd o 40 awr yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc pan fo angen.
Gwyliau: Yn ychwanegol at wyliau banc statudol, bydd hawl pro rata i 25 diwrnod o wyliau dros flwyddyn.
Pensiwn: Gall staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Tinopolis, yn ddarostyngedig i delerau’r cynllun. Ar hyn o bryd, mae Tinopolis yn cyfrannu 3% o’r cyflog sylfaenol a disgwylir cyfraniad staff o 5%.
Ceisiadau: Dylid anfon llythyr cais a CV at swyddi@tinopolis.com, gan nodi ‘Crëwr Cynnwys Digidol’ yn glir.
Dyddiad ac amser cau: 4 Medi 2026
Yn unol â gofynion Deddf Lloches a Mewnfudo 1996, rhaid i bob ymgeisydd fod yn gymwys i fyw a gweithio yn y DU. Bydd angen darparu tystiolaeth ddogfennol fel rhan o’r broses recriwtio.Bydd gwybodaeth bersonol a ddarperir wrth wneud cais yn cael ei thrin yn unol â Pholisi Diogelu Data Tinopolis.
Gellir gofyn i ni ddileu data personol o’n ffeiliau ar unrhyw adeg.