Teitl swydd: Dylunydd
Math o gytundeb: Parhaol
Oriau gwaith: Llawn amser (35 awr yr wythnos)
Graddfa: Gweithredol 5: £31,745 – £35,365 y flwyddyn
Lleoliad: Hyblyg (unrhyw un o swyddfeydd yr Urdd)
Dyddiad cau: 19 Hydref am 17:00
Dyddiad cyfweld: 03 Tachwedd (ar-lein)
Cyfle cyffrous i weithio ar amrywiaeth eang o brosiectau creadigol, gan ddarparu gwasanaeth dylunio corfforaethol a chreadigol i adrannau ledled y mudiad. O ymgyrchoedd marchnata a deunyddiau hyrwyddo i gynnwys digidol a chylchgrawn yr Urdd, bydd eich gwaith yn helpu i adrodd stori un o fudiadau ieuenctid mwyaf Cymru.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Elinor Dafydd, Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Marchnata a Materion Cyhoeddus ar elinordafydd@urdd.org
Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd wedi ei gwblhau dros e-bost at swyddi@urdd.org
Fel rhan o’ch cais, bydd angen cyflwyno portffolio ynghyd a’r ffurflen gais.