Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 325
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Cyfle Cyfartal
Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.
Pwy ydyn ni
Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.
Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.
Cyfrifoldebau’r swydd
Gan weithio ar brosiectau sy’n ymateb i’r galw fel Llinell Gwynion Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru, Ymholiadau National Rail, Rheilffordd i Loches, Cymorth i Deithwyr Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru ac Archebion Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru, ynghyd â chefnogi prosiectau eraill yn ôl yr angen, byddwch yn darparu cymorth rheng flaen i ymholiadau a chwynion cwsmeriaid dros y ffôn a sianeli eraill.
• Ymateb i ymholiadau gan gwsmeriaid (i mewn ac allan) a chwynion drwy gyfathrebu dros y ffôn, sgwrsio dros y we (Live chat), e-bost a’r cyfryngau cymdeithasol, i ddatrys problemau yn brydlon gan sicrhau gwasanaeth o ansawdd uchel i gwsmeriaid.
• Cwblhau tasgau system dyddiol trwy ymgynghori â'r systemau gweinyddol amrywiol i sicrhau gweithrediad di-dor yr holl gontractau gwasanaethau teleffoni a gyflawnir gan Ymgynghorwyr Gwasanaethau i Cwsmeriaid.
• Ymgysylltu â’n cwsmeriaid dros y ffôn, E-bost, y cyfryngau cymdeithasol a sgwrsio dros y we drwy Live chat i roi gwybodaeth gywir a chyson iddyn nhw am y gwahanol gontractau gwasanaethau teleffoni i sicrhau bod Trafnidiaeth Cymru yn darparu gwasanaeth o’r radd flaenaf.
• Delio â cheisiadau a chwynion cwsmeriaid drwy ymateb yn effeithlon ac yn broffesiynol i fodloni cytundebau lefel gwasanaeth y cytunwyd arnynt a dangosyddion perfformiad allweddol.
Am bwy rydym ni’n chwilio
• Profiad blaenorol o weithio mewn amgylchedd gwasanaeth i gwsmeriaid.
• Profiad o ddefnyddio amrywiaeth o systemau TG.
• Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac ar bapur yn Gymraeg ac yn Saesneg
• Siaradwr Cymraeg rhugl
Sgiliau Iaith Gymraeg
Mae’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol
Y camau nesaf
Ai'r swydd hon yw'r cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi ragor o wybodaeth? Trowch at y Disgrifiad Swydd sydd wedi'i atodi i gael rhagor o fanylion.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn arweinydd ym maes anabledd. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.
Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.
Cofiwch: mae’n rhaid i chi fod â’r hawl i weithio yn y DU yn barhaol. Nid ydym yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd