A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Cynghorydd Gwasanaeth Cwsmeriaid - Casnewydd / Swyddle
Swydd:
Cynghorydd Gwasanaeth Cwsmeriaid - Casnewydd
Lleoliad:
Casnewydd
Cyflog:
£33,205
Cyfeirnod:
REC002774
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
23-09-2025

Disgrifiad Swydd

Sylwer: rydym yn recriwtio'n weithredol ar gyfer ein cronfa dalent de. Os ydych eisoes yn y gronfa dalent ar gyfer y lleoliad hwn, ni fydd eich swydd yn cael ei effeithio.

 

Cyfle Cyfartal

 

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

Pwy ydyn ni 

 

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.

 

Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.

 

Cyfrifoldebau’r Swydd

 

Ydych chi'n frwd dros ddarparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid? Rydyn ni'n recriwtio unigolion ymroddedig sy'n canolbwyntio ar y cwsmer i ymuno â'n tîm Gweithrediadau Cwsmeriaid rheng flaen.

 

Fel Cynghorwr Gwasanaethau i Gwsmeriaid, byddwch yn gyfrifol am sicrhau amgylchedd diogel, effeithlon a chroesawgar i bob cwsmer yn ein cyfnewidfa fysiau neu orsaf brysur. Byddwch yn gyfrifol am gyfathrebu’n glir ac am ddarparu cymorth cyson ymhob cam o daith y cwsmer.

 

Mae’n bosibl y cewch eich neilltuo i unrhyw un o'r meysydd allweddol canlynol:

 

  • Helpu cwsmeriaid i brynu tocynnau yn ein swyddfeydd tocynnau, peiriannau tocynnau hunanwasanaeth neu drwy ein ap;
  • Monitro rhwystrau gatiau tocynnau, gwirio tocynnau, a rhoi tocynnau cosb lle bo hynny'n briodol.
  • Helpu cwsmeriaid ar y platfformau a goruchwylio'r gwaith o anfon trenau'n ddiogel ac yn amserol.
  • Darparu cymorth i gwsmeriaid sydd ag anghenion hygyrchedd.
  • Cynnig arweiniad a chefnogaeth i gwsmeriaid yn ein cyfnewidfeydd bysiau prysur
  • Helpu i gynnal safon uchel o ran edrychiad a glendid yr orsaf, gan sicrhau bod yr amgylchedd yn aros yn lân, yn edrych yn dda a’i bod yn groesawgar i bob cwsmer.

 

Dyma swydd ddeinamig ac amrywiol sy'n gofyn am y gallu i feddwl yn gyflym a gweithredu'n bendant mewn amgylchedd prysur. Mae brwdfrydedd gwirioneddol dros wasanaeth i gwsmeriaid yn hanfodol. Mae ein timau Gweithrediadau Cwsmeriaid yn cael eu grymuso i gymryd perchnogaeth a gwneud gwahaniaeth ystyrlon i bob rhyngweithiad â chwsmeriaid. Rydyn ni eisiau i chi fod yn falch o'r ardal lle ydych chi'n gweithio, a bod yn llysgennad dros ein brand, drwy ddarparu amgylchedd cynhwysol, glân a chroesawgar.

 

Drwy ymgysylltu â chwsmeriaid, cynnig gwybodaeth gywir ac amserol, a'u galluogi i wneud penderfyniadau teithio gwybodus, byddwch yn helpu i ennyn ymddiriedaeth a hyder yn ein gwasanaethau a'n sefydliad.Bydd disgwyl i chi hefyd ddilyn gweithdrefnau diogelwch sefydledig bob amser, gan sicrhau bod llesiant cwsmeriaid a chydweithwyr yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth.

 

Am bwy rydyn ni’n chwilio

 

  • Prawf o’r gallu i ddarparu gwasanaeth rheng flaen ardderchog i gwsmeriaid
  • Sgiliau cyfathrebu cadarn ar lafar ac ar bapur
  • Sgiliau trefnu cadarn
  • Gallu gwneud penderfyniadau hyderus mewn amgylcheddau prysur, gyda'r gallu i wneud sawl tasg ar unwaith
  • Yn ddigynnwrf ac yn broffesiynol wrth ddelio â sefyllfaoedd heriol
  • Gallu darparu gwybodaeth gywir i gwsmeriaid
  • Yn gyfforddus yn gweithio o fewn gweithdrefnau sefydledig, rheolau a rheoliadau diogelwch
  • Gallu gweithio’n annibynnol ac fel aelod o dîm

 

Ymuno â'n Pwll Talent

 

Os byddwch yn llwyddiannus ar ôl y cyfnod cyfweld ond nad oes rôl ar gael ar unwaith, cewch eich rhoi yn ein Pwll Talent am gyfnod o 12 mis lle byddwch yn cael eich ystyried yn swydd addas.

 

Sgiliau Laith Gymraeg

 

Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.

 

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol

 

Y Camau Nesaf

 

A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

 

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.

 

Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.

 

Os ydych wedi cyflwyno cais am y rôl hon o fewn y 6 mis diwethaf ac wedi bod yn aflwyddiannus, peidiwch ag ailymgeisio oherwydd yn anffodus, ni fydd eich cais yn cael ei ystyried.