Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 325
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Cyfle Cyfartal
Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.
Pwy ydyn ni
Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.
Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.
Cyfrifoldebau’r Swydd
Ydych chi'n frwd dros ddarparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid? Rydyn ni'n recriwtio unigolion ymroddedig sy'n canolbwyntio ar y cwsmer i ymuno â'n tîm Gweithrediadau Cwsmeriaid rheng flaen.
Fel Cynghorwr Gwasanaethau i Gwsmeriaid, byddwch yn gyfrifol am sicrhau amgylchedd diogel, effeithlon a chroesawgar i bob cwsmer yn ein cyfnewidfa fysiau neu orsaf brysur. Byddwch yn gyfrifol am gyfathrebu’n glir ac am ddarparu cymorth cyson ymhob cam o daith y cwsmer.
Mae’n bosibl y cewch eich neilltuo i unrhyw un o'r meysydd allweddol canlynol:
Dyma swydd ddeinamig ac amrywiol sy'n gofyn am y gallu i feddwl yn gyflym a gweithredu'n bendant mewn amgylchedd prysur. Mae brwdfrydedd gwirioneddol dros wasanaeth i gwsmeriaid yn hanfodol. Mae ein timau Gweithrediadau Cwsmeriaid yn cael eu grymuso i gymryd perchnogaeth a gwneud gwahaniaeth ystyrlon i bob rhyngweithiad â chwsmeriaid. Rydyn ni eisiau i chi fod yn falch o'r ardal lle ydych chi'n gweithio, a bod yn llysgennad dros ein brand, drwy ddarparu amgylchedd cynhwysol, glân a chroesawgar.
Drwy ymgysylltu â chwsmeriaid, cynnig gwybodaeth gywir ac amserol, a'u galluogi i wneud penderfyniadau teithio gwybodus, byddwch yn helpu i ennyn ymddiriedaeth a hyder yn ein gwasanaethau a'n sefydliad.Bydd disgwyl i chi hefyd ddilyn gweithdrefnau diogelwch sefydledig bob amser, gan sicrhau bod llesiant cwsmeriaid a chydweithwyr yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth.
Am bwy rydyn ni’n chwilio
Ymuno â'n Pwll Talent
Os byddwch yn llwyddiannus ar ôl y cyfnod cyfweld ond nad oes rôl ar gael ar unwaith, cewch eich rhoi yn ein Pwll Talent am gyfnod o 12 mis lle byddwch yn cael eich ystyried yn swydd addas.
Sgiliau Laith Gymraeg
Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol
Y Camau Nesaf
A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.
Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.
Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.
Os ydych wedi cyflwyno cais am y rôl hon o fewn y 6 mis diwethaf ac wedi bod yn aflwyddiannus, peidiwch ag ailymgeisio oherwydd yn anffodus, ni fydd eich cais yn cael ei ystyried.