A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Cynghorydd Cwsmer / Swyddle
Swydd:
Cynghorydd Cwsmer
Lleoliad:
Y Rhyl
Cyflog:
£26,200
Cyfeirnod:
202603GS
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Dŵr Cymru / Welsh Water
Dyddiad Cau:
05-04-2026

Beth fyddwch chi'n gyfrifol amdano

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â'n canolfan gyswllt yn ein swyddfa yn y Rhyl, Gogledd Cymru. Rydym yn chwilio am unigolion sy'n dangos cydnerthedd cryf ac sydd wir yn angerddol dros helpu pobl.

Gwyddom mai timau amrywiol yw’r timau mwyaf llwyddiannus. Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn rhoi sylfaen i'n diwylliant yn Dŵr Cymru. Rydym eisiau i unigolion, yn ddi-eithriad, deimlo'n hyderus, yn falch, a’u bod yn gallu dod â’u hunain cyfan i’r gwaith.

Mae ein tîm yn amrywiol, ond mae ein cwsmeriaid yn amrywiol hefyd, ac rydym yma i'w cefnogi pan fydd angen. Eich rôl fydd ateb ymholiadau cwsmeriaid am eu cyfrifon, ymdrin â sgyrsiau heriol ynghylch biliau, taliadau, digwyddiadau gweithredol, defnydd dŵr a gollyngiadau, felly mae'n rhaid i chi fod â'r gallu i ddatrys problemau. Gallwn roi sicrwydd i chi na fydd 2 ddiwrnod yr un peth!

 

Byddwch yn:

  1. Cyswllt cyntaf i'n cwsmeriaid, gan fod yn gadarnhaol ac yn angerddol am ddatrys eu problemau.
  2. Gwrando ar gwsmeriaid a’u holi i ddatrys ymholiad neu gŵyn.
  3. Defnyddio’ch sgiliau meithrin perthynas i ddeall anghenion cwsmeriaid a dangos cydymdeimlad.
  4. Arddangos a gweithredu gwerthoedd y cwmni i ennill ymddiriedaeth cwsmeriaid.
  5. Cefnogi cwsmeriaid a chydweithwyr trwy sgiliau cyfathrebu rhagorol a gwaith tîm.
  6. Chwilio am ffyrdd o wella systemau a phrosesau.
  7. Addysgu cwsmeriaid am ddatrysiadau priodol, gan gynnwys effeithlonrwydd dŵr a chymorth ariannol.
  8. Esbonio canlyniadau peidio â thalu.
  9. Bod â’r cymhelliant i ddatrys ymholiadau ar y cyswllt cyntaf.
  10. Gweithio mewn amgylchedd cyflym gan ddefnyddio cydnerthedd a hunan-gymhelliant.

 

Gyda phwy y byddwch chi'n gweithio

Cwsmeriaid Dŵr Cymru, eich tîm o staff newydd, timau ehangach yn y ganolfan gyswllt ac Arweinwyr Tîm.

 

Amdanoch chi

Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad

  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol – llafar ac ysgrifenedig
  • Agwedd gyfeillgar a chadarnhaol wrth siarad â chwsmeriaid
  • Hyder wrth ddefnyddio TG a systemau cyfrifiadurol
  • Onest a phroffesiynol bob amser
  • Cydnerth ac yn dda am ddatrys problemau
  • Agored i adborth a dysgu sgiliau newydd
  • Hyder gyda rhifau a’u hesbonio
  • Sylw i fanylion a gallu cofio gwybodaeth
  • Gallu gwneud penderfyniadau

Os ydych chi'n siarad Cymraeg, rhowch wybod i ni gan fod gennym adran Gymraeg ddynodedig yma yn Dŵr Cymru.

 

Da Gwybod

Eich cyflog blynyddol yw £26,200. Y dyddiad cychwyn ar gyfer y rôl hon yw 18 Mai 2026. Sylwer, cynhelir sesiwn canolfannau asesu yn wythnos yn dechrau 13 Ebrill, y bydd angen i chi ei mynychu.

Byddwch yn cael 9 wythnos o hyfforddiant lle byddwch yn gweithio 9am–5pm. Oherwydd pa mor fanwl yw'r hyfforddiant, ni ellir awdurdodi cyfnodau estynedig o wyliau blynyddol yn ystod y cyfnod hwn.