Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 434
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Mae S4C yn chwilio am Arweinydd Creadigol ysbrydoledig i arwain ar hunaniaeth a hyrwyddo gweledol a brand S4C mewn tirwedd ddigidol, aml-blatfform. Mae’r rôl yn gofyn am ddealltwriaeth ddofn ac angerdd am y pwysigrwydd o frand a stori gref, unigryw sy’n dal sylw a denu cynulleidfaoedd newydd.
Byddwch yn gyfrifol am arwain tîm o unigolion creadigol sy’n meddu ar arbenigaethau amrywiol gan gynnwys dylunio, golygu, sgriptio a chynhyrchu asedau hyrwyddo ar gyfer S4C a’i ystod o ymgyrchoedd cynnwys - wedi'i ysbrydoli a’i arwain gan strategaeth hyrwyddo S4C.
Yn S4C, rydyn ni’n angerddol am greu amgylchedd gwaith positif, egnïol a chynhwysol sy’n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd:
Ar Dy Orau, Balch o S4C, Dathlu pawb, Cer Amdani.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â S4C a’r tîm creadigol ar adeg hollbwysig yn hanes y gwasanaeth wrth i ni weithredu ein strategaeth newydd, S4C - Mwy na Sianel Deledu. Bydd disgwyl i chi gyfrannu ar lwyddiant y strategaeth yma gan weithredu strategaeth frand newydd sy’n cysoni ein hunaniaeth weledol er mwyn helpu tyfu cynulleidfaoedd, codi proffil a gwella canfyddiad S4C mewn hinsawdd gystadleuol iawn.
Rydym yn chwilio am unigolyn sydd yn angerddol am gynnwys S4C ac sydd â gweledigaeth ddigidol arloesol i ymgysylltu a chreu argraff gyda chynulleidfaoedd newydd. Unigolyn sy’n frwdfrydig i arwain ac i ddenu cynulleidfaoedd newydd i holl blatfformau'r sianel drwy ein holl asedau hyrwyddo.
Manylion eraill
Lleoliad: Swyddfa S4C, Sgwâr Canolog, Caerdydd (o leiaf 3 ddiwrnod yn y swyddfa). Bydd disgwyl i chi weithio o’r swyddfa yn barhaus am y bythefnos gyntaf er mwyn hyfforddi. Bydd disgwyl i chi fynychu/gweithio o swyddfeydd eraill yn ôl yr angen.
Cyflog: £55,000 y flwyddyn
Cytundeb: Parhaol
Oriau gwaith: 35.75 yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
Cyfnod prawf: 6 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Teithio: Bydd teithio achlysurol yn rhan o’r swydd, fel rheol o fewn y Deyrnas Unedig
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 9.00 ar ddydd Llun 13 Ebrill 2026 at Pobl@s4c.cymru neu Pobl a Diwylliant, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Nid ydym yn derbyn CV.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Dyddiad Cyfweliad: 28 Ebrill 2026, lleoliad i'w cadarnhau.