A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Cydlynydd / Swyddle
Swydd:
Cydlynydd
Lleoliad:
Llanelli
Cyflog:
Dibynnol ar brofiad
Cyfeirnod:
tinopolis36261915
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Tinopolis
Dyddiad Cau:
21-06-2026

Cydlynydd
Tinopolis – Llanelli

Ry’n ni’n chwilio am berson brwdfrydig a threfnus i ymuno â thîm cynhyrchu Tinopolis yn Llanelli. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymwneud â phob agwedd o waith y timau rheoli cynhyrchu ar draws ystod o gynnwys.

Bydd cyfrifoldebau yn cynnwys tasgau rheoli’r tîm a’r adnoddau drwy’r broses gynhyrchu er mwyn cael y gwerth gorau i’r rhaglenni gan gynnwys amserlenni, trefnu criwiau saethu/ôl-gynhyrchu, logistics a gwaith papur cyn ac ôl-gynhyrchu. Yn ogystal bydd hefyd gyfrifoldeb am amrywiaeth o agweddau rhedeg y swyddfa, trefniadau teithio a gwaith achlysurol ar leoliad o dan arweiniad y tîm rheoli cynhyrchu. Oherwydd natur y swydd, bydd y swydd wedi’i lleoli llawn amser yn y stiwdio yn Llanelli.

Sgiliau perthnasol: Y gallu i gyfathrebu, bod yn rhan o dîm, a chreu a chynnal perthnasau gwaith effeithiol yn fewnol ac ar draws y diwydiant. Person trefnus, egniol, hyblyg sy’n gallu blaenoriaethu ac yn cynnig atebion i broblemau.

Rydym yn gwmni sy’n awyddus i adlewyrchu’r cymunedau ry’n ni’n gwasanaethu ac yn credu mewn amrywiaeth a chyfleoedd cyfartal. Ry’n ni bob amser yn croesawu ceisiadau wrth unigolion o unrhyw oedran, cefndir ethnig, anabledd, rhywioldeb a chefndir cymdeithasol yn unol â Deddf Gydraddoldeb 2010.

Lleoliad:
Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 3YE

Cyflog: yn ddibynnol ar brofiad

Dyddiad cau: 21 Mehefin 2026


Manylion pellach

Oriau gwaith:
Cyfartaledd o 40 awr yr wythnos ond oherwydd natur y swydd disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc.

Gwyliau:
Yn ychwanegol i’r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl pro rata i 25 diwrnod o wyliau dros flwyddyn.

Pensiwn:
Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â chynllun pensiwn yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth. Os byddwch yn aelod o’r cynllun pensiwn, bydd Tinopolis yn cyfrannu 3% o’ch cyflog sylfaenol i’r cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.

Ceisiadau:
Dylid anfon ceisiadau mewn ffurf llythyr cais a CV erbyn 12:00 y prynhawn ar Ddydd Sul, 21 Mehefin 2026 at
swyddi@tinopolis.com
neu Swyddi, Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 3YE.

Yn unol â gofynion Deddf Lloches a Mewnfudo 1996, rhaid i bob ymgeisydd fod yn gymwys i fyw a gweithio yn y DU. Bydd angen darparu tystiolaeth ddogfennol fel rhan o’r broses recriwtio.

Gwybodaeth bersonol: Wrth wneud cais am swydd, bydd disgwyl i chi ddarparu CV. Byddwn yn cadw copi o’ch CV ar ffeil am gyfnod o dair blynedd. Gallwch ofyn i ni ddileu eich data personol ar unrhyw adeg. Am ragor o wybodaeth, gweler:
http://www.tinopolis.com/privacy-notice/