Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 434
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Pam ymuno â S4C?
Yn S4C, rydyn ni’n angerddol am greu amgylchedd gwaith positif, egnïol a chynhwysol sy’n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd:
Ar Dy Orau, Balch o S4C, Dathlu pawb, Cer Amdani.
Rydyn ni'n chwilio am unigolyn dibynadwy, disgybledig, a threfnus gyda sgiliau ysgrifennu a dadansoddi gwych sy’n byw ein gwerthoedd craidd i ymuno â’r tîm Cynllunio a Rheoli Cynnwys.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â’n tîm wrth i ni barhau i ddatblygu ein prosesau mewnol ar gyfer dyfodol newydd ddarlledu sydd yn cynnwys ffrydio a gwasanaethau aml blatfform.
Eich prif gyfrifoldeb fydd paratoi a chyfoethogi metadata golygyddol cywir a deniadol yn ein system feddalwedd, a fydd yn bwydo holl blatfformau S4C. Byddwch hefyd yn cefnogi gwaith i boblogi’r system feddalwedd a pharatoi deunydd i’r cyfryngau.
Mae metadata yn cynnwys amrywiaeth o wybodaeth, megis: teitlau, billings a synopses, genre, geiriau allweddol. Mae’r wybodaeth yma yn helpu i arwyddo cyfresi a phenodau ar lwyfannau partner fel BBC iPlayer, Samsung ac LG. Mi fydd hyfforddiant ar agweddau metadata yn gysylltiedig gyda’r rôl yn cael ei drefnu fel rhan o anwythiad.
Manylion eraill
Lleoliad: Caerfyrddin / Caerdydd / Caernarfon (o leiaf 2 diwrnod mewn swyddfa a chyfnod swyddfa parhaus am y bythefnos gyntaf er mwyn hyfforddi- mae'n debygol y bydd yr hyfforddiant yma yn digwydd yn ein swyddfa(feydd) yng Nghaerfyrddin neu Gaerdydd).
Cyflog: £38,171.00 y flwyddyn
Cytundeb: Parhaol
Oriau gwaith: Hyd at 35.75 yr wythnos - rydym yn hapus i drafod oriau gwaith ac i ystyried ceisiadau oddi wrth ymgeiswyr sy’n edrych am waith hyblyg neu ran amser. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Teithio: Bydd teithio achlysurol yn rhan o’r swydd, fel rheol o fewn y Deyrnas Unedig.
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 9.00 ar ddydd Mawrth 14 Ebrill 2026 i Pobl@s4c.cymru neu Pobl a Diwylliant, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Nid ydym yn derbyn CV.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Dyddiad Cyfweliadau: Dyddiad a lleoliad i’w gadarnhau; cyfweliadau i’w cymryd lle ar 24ain Ebrill 2026, lleoliad i’w gadarnhau.