A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Dadansoddwr Masnachol - Marchnata / Swyddle
Swydd:
Dadansoddwr Masnachol - Marchnata
Lleoliad:
Pontypridd
Cyflog:
£41,829
Cyfeirnod:
REC002767
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
18-09-2025

Disgrifiad Swydd

Cyfle Cyfartal

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

Cyfrifoldebau’r swydd

Mae’r Dadansoddwr Masnachol yn cefnogi'r Tîm Marchnata, y Rheolwr Gwasanaeth Masnachol a Phennaeth y Tîm Dadansoddeg a Mewnwelediad drwy ddadansoddi a rhagweld beth yw effaith gweithgareddau marchnata Trafnidiaeth Cymru. Bydd yn helpu Trafnidiaeth Cymru i ddeall beth sy’n cynyddu’r galw a’r refeniw drwy gynnal dadansoddiad wythnosol o berfformiad a chyfraniad marchnata at refeniw ar draws rhwydwaith Trafnidiaeth Cymru a’r tu hwnt. 

Bydd cyfrifoldebau’r swydd yn cynnwys y canlynol, ymhlith pethau eraill:

  • Rheoli a darparu dadansoddiadau, adroddiadau a gwybodaeth i gefnogi’r Strategaeth Farchnata, argymell mentrau a allai gefnogi twf refeniw er mwyn ein galluogi i gyrraedd ein targedau o ran cyfraniad marchnata.
  • Cynnal a datblygu adroddiadau a dangosfyrddau cynhwysfawr sy’n tynnu sylw’r tîm marchnata a rhanddeiliaid allweddol at fetrigau a gwybodaeth allweddol er mwyn olrhain targedau a metrigau allweddol.
  • Cynnal dadansoddiadau manwl a darparu gwybodaeth am amrywiaeth o sianeli marchnata a ffynonellau data, gan gynnwys dadansoddeg o wefannau a llwyfannau CRM, er mwyn creu strategaeth ar sail gwybodaeth ac olrhain targedau sianel a refeniw.
  • Dylunio a chynnal profion hypothesis drwy ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau ystadegol i gefnogi hawliadau penodol am ymddygiad y cwsmer, tueddiadau’r farchnad ac effeithlonrwydd strategaethau marchnata.
  • Defnyddio ymchwil marchnata a phroffil cwsmeriaid, a gweithio gyda’r Rheolwr Gwybodaeth a’r Rheolwr Ymchwilio i wella effeithlonrwydd ymgyrchoedd a sbarduno buddiant masnachol.

 

Am beth rydym ni’n chwilio

  • Profiad amlwg mewn rôl ddadansoddol
  • Sylw trylwyr i fanylion
  • Gallu cyfathrebu’n effeithiol â rheolwyr
  • Profiad o gyflwyno gwybodaeth gymhleth mewn ffordd hawdd ei deall a’i throsi’n adroddiadau/cyflwyniadau o fewn amserlenni tynn
  • Y gallu a’r cymhelliant i ddatblygu dealltwriaeth fanwl o rwydwaith gwasanaethau Rheilffyrdd TrC Cyf a’r hyn sy’n sbarduno llwyddiant y busnes

Sgiliau Iaith Gymraeg

Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol

 

Y camau nesaf

A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.

Trafnidiaeth Cymru – yn arwain ar anableddau. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.

* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.