A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Digital Content Commissioner / Swyddle
Swydd:
Digital Content Commissioner
Lleoliad:
Caernarfon, Caerdydd, Caerfyrddin
Cyflog:
Dim llai na £70,000 y flwyddyn
Cyfeirnod:
S4CCCD9726
Math o Swydd:
Contract Tymor Penodol ( 4 blwyddyn yn y lle cyntaf )
Cleient:
S4C
Dyddiad Cau:
27-07-2026

Comisiynydd Cynnwys Digidol

Pam ymuno â S4C?

Yn S4C, rydyn ni’n angerddol am greu amgylchedd gwaith positif, egnïol a chynhwysol sy’n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd:

Ar Dy Orau, Balch o S4C, Dathlu pawb, Cer Amdani.

Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â’n tîm wrth i ni gyflwyno ein strategaeth cynnwys newydd aml-blatfform. Rydyn ni'n chwilio am unigolyn dynamig, creadigol a brwdfrydig sy’n byw ein gwerthoedd craidd i ddatblygu ein cynnwys digidol.

Trosolwg y Swydd

Dyma gyfle arbennig i unigolyn profiadol a galluog arwain, diffinio a datblygu strategaeth gynnwys byd digidol ac aml blatfform S4C.  Bydd y Comisiynydd Cynnwys Digidol yn gweithio’n agos gyda’r Comisiynwyr Cynnwys eraill, y Pennaeth Ffrydio a Digidol, y Pennaeth Cynllunio a Rheoli Cynnwys yn ogystal â thimoedd eraill yn S4C gan gynnwys y tîm technegol, y tîm materion busnes a chyllid a’r tîm cyfreithiol.   

Wrth i S4C ddatblygu ein cynnwys digidol rydym yn chwilio am arweinydd profiadol a chreadigol all ddatblygu presenoldeb S4C ar draws platfformau digidol.  Wrth ymateb i’r newidiadau mewn arferion gwylio a chynhyrchu cynnwys digidol ar amrywiol blatfformau, bydd angen dealltwriaeth ddofn o’r maes, yn ogystal â phrofiad o gynhyrchu cynnwys.  Byddwn yn cynyddu ein buddsoddiad mewn cynnwys sydd wedi ei gomisiynu a’i greu yn benodol ar gyfer platfformau digidol, a bydd y rôl yma yn gyfrifol am lunio gweledigaeth ar gyfer denu cynulleidfaoedd newydd at gynnwys S4C ar YouTube.

Bydd y Comisiynydd Cynnwys Digidol yn sicrhau safonau golygyddol uchel a rhagoriaeth greadigol, yn ogystal ag aliniad gyda blaenoriaethau strategol S4C. 

Manylion eraill 

Lleoliad:  Caerfyrddin / Caerdydd / Caernarfon (o leiaf 3 diwrnod yn y  swyddfa) 

Cyflog: Cyflog cystadleuol yn ddibynnol ar sgiliau a phrofiad.  Bydd y cyflog dim llai na £70,000 y flwyddyn.  Mae croeso i chi gysylltu â thîm Pobl a Diwylliant ar pobl@s4c.cymru am rhagor o fanylion am amodau a thelerau’r swydd 

Cytundeb: 4 blwyddyn yn y lle cyntaf

Oriau gwaith: 35.75 yr wythnos.  Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.   

Cyfnod prawf: 3 mis 

Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau. 

Pensiwn:  Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro.  Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun.  Disgwylir i chi gyfrannu 5%.   

Teithio: Bydd teithio rhwng swyddfeydd, ar ymweliadau ac i ddigwyddiadau  yn rhan o’r swydd, fel rheol o fewn y Deyrnas Unedig ac yn achlysurol, yn rhyngwladol. 

Ceisiadau  

Dylid anfon ceisiadau erbyn  9.00 ar ddydd Llun 27 Gorffennaf 2026 at pobl@s4c.cymru.

Nid ydym yn derbyn CV

Ein bwriad ar hyn o bryd yw cyrraedd rhestr fer yn fuan ar ôl y dyddiad cau, gyda cyfweliadau wedi’u cynllunio ar gyfer canol mis Awst yn dibynnu ar argaeledd ymgeiswyr.  Gofynnwn yn garedig i chi nodi unrhyw dyddiadau nad ydych chi ar gael yn ystod mis Awst.  Fodd bynnag, rydym yn canolbwyntio ar ddod o hyd i’r unigolyn cywir ar gyfer y rôl ac mae’n bosibl y bydd angen addasu’r amserlen os bydd angen.

Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.