Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 325
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Sylwer: Bydd y rôl hon yn gweithio 30 awr yr wythnos i 6 mis CCP.
Cyfle Cyfartal
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau deallus ac i fod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain, felly rydyn ni’n creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydyn ni’n benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydyn ni’n creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.
Pwy ydyn ni
Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.
Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.
Cyfrifoldebau’r swydd
Cyfle gwych i ymuno â TrC fel Gweithiwr Glanhau, i weithio fel rhan o dîm sy’n gyfrifol am wasanaeth cwsmeriaid ac iechyd a diogelwch teithwyr o ddydd i ddydd.
Byddwch chi’n bersonol yn cydymffurfio â gweithdrefnau glanhau, drwy ddilyn y protocolau glanhau sy’n cael eu rhannu, dilyn protocolau risg, a chydweithio â staff eraill yr Orsaf i sicrhau eich bod chi, a holl deithwyr TrC, yn ddiogel.
Byddwch chi’n helpu i lanhau gorsafoedd a cherbydau drwy ddilyn canllawiau'r Dulliau Gweithio yn y Pecyn Briffio i Orsafoedd, i sicrhau bod yr orsaf yn cydymffurfio â chanllawiau iechyd a diogelwch.
Byddwch chi’n rhannu gwybodaeth â’r Tîm Glanhau drwy roi gwybodaeth ddefnyddiol ac arweiniad ar Fforwm Teams y grŵp, er mwyn sicrhau bod y tîm yn ymwybodol o’r arferion gorau.
Am bwy rydyn ni’n chwilio
Rydyn ni’n chwilio am weithiwr glanhau proffesiynol profiadol, sy’n deall sut mae delio â sylweddau glanhau’n ddiogel, ac sy’n gallu dilyn gweithdrefnau diogelwch llym i’n helpu ni i ddarparu gwasanaeth glanhau o'r radd flaenaf.
Bydd angen y canlynol arnoch:
Sgiliau Iaith Gymraeg
Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol
Y camau nesaf
A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.
Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.
* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.
**Os ydych wedi cyflwyno cais am y rôl hon o fewn y 6 mis diwethaf ac wedi bod yn aflwyddiannus, peidiwch ag ailymgeisio oherwydd yn anffodus, ni fydd eich cais yn cael ei ystyried.
Sylwch fod yn rhaid i chi ddal yr hawl barhaol i weithio yn y DU. Nid ydym yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd.**