Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 434
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Ydych chi’n arweinydd angerddol sydd â gweledigaeth glir dros ddyfodol y Gymraeg yn y gymuned?
Mae Menter Iaith Sir Caerffili yn chwilio am Brif Swyddog deinamig ac ysbrydoledig i arwain y Fenter i’w cham nesaf o ddatblygiad. Erbyn hyn mae’r Fenter yn fudiad blaenllaw yn y rhanbarth yn darparu amrywiaeth o wasanaethau cyfrwng Cymraeg, cyfleoedd yn y gymuned i ddefnyddio’r Gymraeg, yn cyflogi dros 65 aelod o staff gyda throsiant o dros £1 miliwn.
Bydd y swydd yn cynnig cyfle cyffrous i lunio, datblygu a chyflawni gwaith strategol sy’n cynyddu defnydd a phroffil y Gymraeg ar draws cymunedau Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Os oes gennych y weledigaeth, y brwdfrydedd a’r sgiliau i wneud gwahaniaeth go iawn i ddyfodol y Gymraeg yn Sir Caerffili, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Os ydych chi am sgwrs anffurfiol am y swydd, ffoniwch Lowri Jones ar 01443 820913 neu ebostiwch lowrijones@mentercaerffili.cymru.
Dylech ddychwelyd y Ffurflen Gais ynghyd â’ch CV mwyaf cyfredol erbyn 5pm ar Fai 24ain i lowrijones@mentercaerffili.cymru
Cyfweliadau: Mehefin 1af a’r 2ail yn swyddfa Menter Caerffili, Ystrad Mynach, CF82 7EH