Lleoliad:
Rhondda Cynon Taf
Cyflog:
£38,626 - £44,075
Cleient:
Menter Iaith Rhondda Cynon Taf
Amodau a Gwybodaeth
2. Lleolir y swydd hon yn swyddfa’r Fenter yn yr Hen Lyfrgell, y Porth, ond fydd angen teithio o gwmpas Rhondda Cynon Taf, a thu hwnt. Telir costau teithio pan mae angen gweithio i ffwrdd o’r swyddfa.
3. Bydd y sawl a benodir yn gweithio 37 awr yr wythnos. Yr oriau swyddfa arferol yw 9am tan 5pm er y bydd angen bod yn hyblyg a gweithio gyda’r nos ac yn ystod penwythnosau ar adegau. Gellir hawlio amser i ffwrdd fyddai’n cyfateb i’r oriau ychwanegol yma (TOIL).
4. Yn ogystal â’r gwyliau statudol, a thridiau adeg y Nadolig, bydd hawl gan y person a benodir i 25 diwrnod o wyliau bob blwyddyn ar sail yr wythnos waith uchod.
5. Cyflog y swydd fydd rhwng £38,626 - £44,075 y flwyddyn, yn ddibynol ar brofiad.
6. Sefydliad bach yw Menter Iaith ac o angenrheidrwydd mae galw am hyblygrwydd o dro i dro.
7. Mae’r Prifweithredwr yn atebol i Fwrdd Rheoli’r Fenter ac i’r Cadeirydd, Is-Gadeirydd neu Drysorydd rhwng cyfarfodydd.
8. Mae gwaith Menter Iaith yn cynnwys hybu, cydlynu a threfnu gweithgareddau sy’n hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg yn Rhondda Cynon Taf a’r cyffiniau.
9. Sgiliau Angenrheidiol
- (i) Bydd gan y person gymhwyster, neu brofiad, rheoli perthnasol neu barodrwydd i ddysgu gan ddilyn cyrsiau ffurfiol.
- (ii) Bydd gan y person brofiad o ddefnyddio neu barodrwydd i ddysgu defnyddio rhaglenni cyfrifiadurol Microsoft Windows, e-bost, meddalwedd cyfrifo a meddalwedd talu cyflogau.
- (iii) Dylai’r person allu gweithio yn annibynnol, o dan bwysau, cyfathrebu’n dda, defnyddio bysellfwrdd, gweithio’n hyderus â ffigurau, ac arddangos medrau cyllid a chyfrifo da.
- (iv) Bydd y Prifweithredwr yn gallu trefnu gwaith yn effeithiol a’i gwblhau o fewn amser priodol.
10. Prif Gyfrifoldebau
Mae’r dyletswyddau yn amrywiol ond amlinellir y prif gyfrifoldebau isod:
- (i) Datblygu’r Fenter yn strategol gan ystyried, cydweithio a chwestiynu cyrhaeddiadau ac anghenion o fewn y sector iaith yn Rhondda Cynon Taf.
- (ii) Trefnu holl weithredoedd y Fenter mewn cydweithrediad â’r Bwrdd Rheoli er mwyn cyflawni Cynllun Corfforaethol Cyfredol y Fenter.
- (iii) Trefnu Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Menter Iaith Rhondda Cynon Taf yn unol â chyfansoddiad y Fenter bob blwyddyn a chyfarfodydd ymddiriedolwyr a Bwrdd Rheoli’r Fenter yn ôl yr angen.
- (iv) Rheoli gwaith holl staff cyflogedig y Fenter trwy system o daflenni gwaith wythnosol, cyfarfodydd arolygu chwarterol, cyfarfodydd staff a chyfarfodydd is-bwyllgorau.
- (v) Datblygu systemau’r Fenter er mwyn rheoli, datblygu a diogelu staff a gweithgareddau’r Fenter yn unol â dymuniadau’r Bwrdd Rheoli ac amodau cyllidwyr y gwahanol brosiectau a chyfraith gwlad.
- (vi) Bod yn gyfrifol am baratoi cyllidebau blynyddol ac aml-flwyddyn sy’n cyd-fynd ag amcanion strategol y Fenter. Monitro perfformiad ariannol ar hyd y flwyddyn, gweithredu rheolaethau effeithiol, a chyflwyno adroddiadau ariannol i’r Bwrdd.
- (vii) Llunio ceisiadau ariannol perthnasol at ddatblygu gweithgareddau’r Fenter mewn cydweithrediad â staff a gwirfoddolwyr perthnasol.
- (viii) Sicrhau gweithredu’r ceisiadau ariannol llwyddiannus gan gynnwys cyflogres, systemau costau teithio a phensiynau i’r holl staff gan gynnwys staff craidd a rhan amser, cadw cofnodion ariannol mewn cydweithrediad â staff a gwirfoddolwyr perthnasol.
- (ix) Bod yn gyfrifol am weinyddu cynllun codi arian annibynnol a gwirfoddol y Fenter ac am gydlynu a datblygu’r gwirfoddolwyr sydd yn ymwneud â hi.
- (x) Bod y person cyfrifol yn llygaid y gyfraith am weithgareddau gofal plant a chwarae'r Fenter.
- (xi) Darparu adroddiadau, cyfoes a chywir, fel bo angen i’r Bwrdd Rheoli ac i’r gwahanol arianwyr gan adrodd yn ôl ar wahanol grantiau a gweithgareddau.
- (xii) Paratoi amcangyfrifon o gostau gweithgareddau newydd er mwyn llunio ceisiadau ariannol o’r newydd mewn cydweithrediad a staff a gwirfoddolwyr perthnasol.
- (xiii) Codi proffil y Gymraeg yn yr ardal yn unol â’r Cynllun Corfforaethol Cyfredol.
- (xiv) Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill yn ôl y galw.
Gwybodaeth Bellach
Mwy o wybodaeth: E-bostiwch osianrowlands@menteriaith.cymru am fwy o wybodaeth a Ffurflen gais.
Dyddiad cau – Cyflwynwch eich ffurflen gais a’ch CV diweddaraf i osianrowlands@menteriaith.cymru erbyn 5pm ar ddydd Llun Mehefin 22ain.
Dyddiad cyfweliad – Dydd Llun Mehefin 29ain yn swyddfa’r Fenter, Yr Hen Lyfrgell, Porth.