A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Cadeirydd - Dysgu Proffesiynol ac Arweinyddiaeth Addysg Cymru / Swyddle
Swydd:
Cadeirydd - Dysgu Proffesiynol ac Arweinyddiaeth Addysg Cymru
Lleoliad:
Cymru
Cyflog:
£256 y dydd. 3 diwrnod y mis yn gyffredinol.
Cyfeirnod:
Cyf 3106
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Golley Slater
Dyddiad Cau:
10-10-2025

Bydd Cadeirydd y bwrdd yn darparu arweinyddiaeth effeithiol, gan ddiffinio a datblygu cyfeiriad strategol ar gyfer Dysgu.

 

Rôl y Cadeirydd

 

Penodir Cadeirydd Bwrdd Dysgu Proffesiynol ac Arweinyddiaeth Addysg Cymru (y Bwrdd) gan Weinidogion Cymru. Mae'n gyfrifol am arwain y Bwrdd a gosod y cyfeiriad strategol ar gyfer Dysgu a monitro'r gwaith o gyflawni strategaeth, cynlluniau a pherfformiad ac amcanion busnes y corff. Er bod gan y Bwrdd y cyfrifoldeb hwn ar lefel strategol, mae gan y Prif Weithredwr gyfrifoldeb mewn perthynas â rheoli gweithredol Dysgu o ddydd i ddydd. Bydd Dysgu’n allweddol i yrru cynnydd ar flaenoriaethau allweddol Llywodraeth Cymru ym maes addysg, sef gwella llythrennedd, rhifedd, llesiant a chynhwysiant, a bydd rôl y Cadeirydd yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod Dysgu’n parhau i ganolbwyntio ar y blaenoriaethau hyn.

 

Bydd prif gyfrifoldebau’r Cadeirydd yn cynnwys y canlynol, ymysg eraill:

  • Darparu gweledigaeth ac arweinyddiaeth strategol i'r Bwrdd i sicrhau bod y Bwrdd yn gorff effeithiol o ran datblygu strategaeth a chynlluniau busnes corfforaethol y creffir yn ofalus arnynt ac a gaiff eu monitro
  • Meithrin perthynas waith effeithiol gyda'r Prif Weithredwr a'r Cyfarwyddwyr.
  • Cadeirio cyfarfodydd a chefnogi'r Bwrdd, gan sicrhau y deuir ag arbenigedd i mewn pan fo hynny'n briodol
  • Sicrhau bod trefniadau llywodraethu yn cael eu sefydlu a'u gweithredu yn unol ag arferion gorau a gofynion corff cyhoeddus, yn unol a chyfraith cwmnïau
  • Bydd y Cadeirydd yn sicrhau bod Dysgu yn hyrwyddo amrywiaeth
  • Bydd y Cadeirydd yn gyfrifol am sicrhau ei fod ef a'r Bwrdd, fel corff ac fel unigolion, yn dilyn saith egwyddor bywyd cyhoeddus Nolan.
  • Hyrwyddo'r defnydd darbodus, effeithlon ac effeithiol o staff ac adnoddau eraill.
  • Sicrhau bod pob aelod o'r Bwrdd yn cael eu briffio'n llawn ar delerau eu penodiad ac ar eu dyletswyddau, eu hawliau a'u cyfrifoldebau, gan gynnwys sicrhau eu bod nhw, ynghyd ag aelodau eraill o'r Bwrdd, yn derbyn hyfforddiant priodol.
  • Gweithio gydag aelodau'r Bwrdd a'r Prif Weithredwr i feithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol ac annog diwylliant o graffu a herio agored ac effeithiol.
  • Asesu perfformiad aelodau unigol o'r Bwrdd yn unol â'r trefniadau y cytunwyd arnynt â Llywodraeth Cymru.
  • Mynychu adolygiad perfformiad blynyddol, a gynhelir gan Weinidogion Cymru
  • Trwy weithio gyda'r Prif Weithredwr yn rhinwedd ei rôl fel Swyddog Cyfrifyddu, sicrhau bod y trefniadau llywodraethu priodol yn cael eu rhoi ar waith yn unol â'r arferion gorau a gofynion corff cyhoeddus.
  • Goruchwylio gwaith y Prif Weithredwr, gan roi cymorth priodol yn ôl yr angen, gan gynnwys rheoli ei berfformiad.
  • Cynrychioli'r corff yn allanol a meithrin cysylltiadau gwaith agos â rhanddeiliaid allweddol. Yn cynnwys cynrychioli barn y Bwrdd i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.

Y Meini Prawf Hanfodol

 

Er mwyn cael eich ystyried, rhaid ichi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni pob un o’r meini prawf sy’n hanfodol ar gyfer y penodiad.

 

  • Y gallu amlwg i annog diwylliant o herio a chraffu effeithiol a defnyddiol ar gyfer y Bwrdd
  • Record ragorol o arweinyddiaeth, trawsnewid sefydliadol a datblygiad ar lefel bwrdd neu ar lefel gyfatebol. Yn gallu dangos y sgiliau i ddarparu arweinyddiaeth gydlynol; diffinio a datblygu cyfeiriad strategol; pennu amcanion; dal y Prif Weithredwr i gyfrif am sicrhau bod gweithgareddau yn cael eu cynnal yn effeithlon ac yn effeithiol.
  • Profiad rhagorol o ymgysylltu, ysbrydoli ac ennyn brwdfrydedd staff a rhanddeiliaid, gan weithredu mewn ffordd gynhwysol a chydweithredol sy'n cynnwys gweithio mewn partneriaeth â chynrychiolwyr staff.
  • Mae angen sgiliau rhyngbersonol rhagorol, gan gynnwys y gallu i negodi, dwyn perswâd a dylanwadu, yn ogystal â herio a chraffu'n annibynnol ac, ar yr un pryd, cynnal perthynas adeiladol.
  • Dealltwriaeth glir o strwythurau llywodraethiant o fewn sefydliad a'r gallu i sicrhau yr ymdrinnir yn ddoeth ac yn systemataidd â thrafodion ariannol y corff, y cânt eu harchwilio yn yr un modd a'u bod ar gael i'r cyhoedd, gan ddangos ymrwymiad i fod yn dryloyw ac yn agored.
  • Hanes blaenorol clir o ymrwymiad i egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac o weithredu ar eu sail. Dealltwriaeth amlwg o'r ymrwymiadau sydd ynghlwm wrth rôl gyhoeddus.
  • Diddordeb amlwg mewn addysg a dealltwriaeth o'r system addysg yng Nghymru, gan gynnwys dealltwriaeth o anghenion a heriau'r dyfodol.
  • Ymrwymiad i sicrhau bod Dysgu’n gyrru gwelliant ar flaenoriaethau allweddol Llywodraeth Cymru ym maes addysg.

 

 

Cynhelir cyfarfodydd y Bwrdd ledled Cymru.

 

Polisi Llywodraeth Cymru yw hyrwyddo ac integreiddio cyfle cyfartal ym mhob agwedd ar ei gwaith, gan gynnwys penodiadau i gyrff cyhoeddus. Croesewir ac annogir ceisiadau gan bob grŵp, ac rydym yn sicrhau na fydd unrhyw ymgeisydd cymwys ar gyfer swydd gyhoeddus yn cael triniaeth llai ffafriol ar sail oedran, anabledd, rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Bydd egwyddorion cystadleuaeth deg ac agored yn berthnasol, a bydd penodiadau’n cael eu gwneud ar sail teilyngdod.

Am ragor o fanylion ac i wneud cais, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud Cais’ nawr.

 

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw dydd Gwener 10 Hydref, 16:00.