Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 434
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
SWYDDOG GWAITH ACHOS (Cymraeg) £30,024 - £32,598 y flwyddyn
Ydych chi wedi graddio’n ddiweddar ac yn gallu gwneud gwaith yn Gymraeg (ar lafar ac ar bapur)? Oes gennych chi sgiliau da o ran gwasanaeth cwsmeriaid neu ddelio â chwynion?
Mae’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yn awyddus i recriwtio unigolyn Graddedig i rôl Swyddog Gwaith Achos i ddarparu gwasanaeth i aelodau o’r cyhoedd ac eraill a all gysylltu â swyddfa’r Ombwdsmon gyda chwynion neu ymholiadau.
Yn y swydd, byddwch yn rheoli llwyth achosion, yn cynnal asesiadau cychwynnol o gwynion ac yn arfer awdurdod dirprwyedig yr Ombwdsmon. Byddwch yn defnyddio’r system rheoli achosion mewnol, yn prosesu cwynion a gohebiaeth gan gynnwys gwrthodiadau syml, fel cwynion sydd yn amlwg y tu allan i’n hawdurdodaeth.
I lwyddo yn y swydd hon, bydd angen i chi ddangos sgiliau gwych ar y ffôn ac o ran gwasanaeth cwsmeriaid, gallu delio â chwynion yn ogystal â gallu defnyddio TG a gallu gwneud gwaith yn Gymraeg (ar lafar ac yn ysgrifenedig).
Mae hon yn swydd hybrid, lle mae angen rhywfaint o bresenoldeb bob wythnos yn ein swyddfa ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Mae’n hanfodol bod y rhai sy’n gweithio i’r Ombwdsmon yn ddiduedd a’u bod yn cael eu hystyried yn ddiduedd. Felly, ni chaniateir i staff sy’n gweithio i’r Ombwdsmon gymryd rhan mewn gweithgarwch gwleidyddol ac mae’n rhaid iddynt osgoi gwneud sylwadau gwleidyddol yn gyhoeddus, er enghraifft ar gyfryngau cymdeithasol. Cyn eu penodi, gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus lofnodi datganiad yn cadarnhau eu bod yn cytuno i lynu at ein polisi o ran cyfryngau cymdeithasol ac adolygu eu hôl troed cyfryngau cymdeithasol ar draws pob llwyfan a ddefnyddir ganddynt.
I wneud cais
Cyflwynwch eich Ffurflen Gais a’r Ffurflen Monitro Cyfle Cyfartal drwy anfon ebost at: recriwtio@ombwdsmon.cymru Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw: Hanner dydd, 5 Awst 2026. Cofiwch fod gennym yr hawl i gau’r cyfle hwn yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.
Mae’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal.
Mae amrywiaeth a chynhwysiant yn ganolog i bopeth a wnawn. Rydym wedi ymrwymo’n weithredol i hyrwyddo a chymryd rhan mewn arferion da yn y ffordd rydym yn denu, yn recriwtio ac yn cadw staff.