A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Glanhawr Cerbydau / Swyddle
Swydd:
Glanhawr Cerbydau
Lleoliad:
Caerdydd
Cyflog:
£37,717 + cloi ymlaen
Cyfeirnod:
REC002873
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
24-11-2025
Disgrifiad o?r swydd

Cyfle Cyfartal


Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

Pwy ydyn ni


Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.


Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.

Cyfrifoldebau’r swydd


Fel Glanhawr Cerbydau, byddwch yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gadw ein trenau’n lân ac yn daclus i’n cwsmeriaid. Byddwch yn glanhau pob rhan o’n trenau - y tu mewn a’r tu allan (gan ganolbwyntio’n benodol ar lanhau o dan y ffrâm) - sy’n golygu bod y rôl yn gofyn llawer yn gorfforol ac yn gallu golygu gweithio y tu allan ym mhob tywydd.


Mae’r rôl yn golygu gweithio amrywiaeth o shifftiau gan gynnwys nosweithiau parhaol/cymysgedd o ddiwrnodau a nosweithiau neu ddiwrnodau parhaol gan gynnwys penwythnosau, felly mae agwedd hyblyg yn bwysig.


Yn ogystal â glanhau ein trenau, bydd disgwyl i chi gyflawni dyletswyddau Glanhau Depo, yn ôl yr angen. Bydd cyfrifoldebau’r swydd yn cynnwys y canlynol, ymhlith pethau eraill:

  • Sicrhau bod safonau glanhau yn cael eu cynnal bob amser ar draws y depo, a chefnogi dyletswyddau yn ôl y galw, yn unol â chyfarwyddiadau’r rheolwyr, gan gynnwys cyfleusterau staff a dyletswyddau Glanhau Siediau.
  • Sicrhau bod yr holl gyfarpar diogelu personol a ddarperir yn cael eu defnyddio’n gywir ac yn cael eu cynnal a’u cadw yn unol â’r gweithdrefnau iechyd a diogelwch perthnasol, a sicrhau eich bod chi a’ch cydweithwyr yn meddu ar yr holl gyfarpar diogelu personol bob amser.
  • Sicrhau eich diogelwch personol eich hunain bob amser yn ogystal â diogelwch pobl eraill, a chydymffurfio â gofynion y llyfr rheolau personol a’r cyfarwyddiadau lleol.
  • Byddwch yn sicrhau eich bod yn defnyddio’r broses gymeradwyo gywir ar gyfer eich gwaith naill ai’n ddigidol neu drwy ddogfen bapur.
  • Sicrhau bod gennych yr wybodaeth ddiweddaraf am bolisïau a briffiau diogelwch sy’n newid a sicrhau eich bod yn gweithio yn unol â safonau glanhau Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru.

Am bwy rydyn ni’n chwilio

  • Profiad o weithio yn y diwydiant rheilffyrdd neu mewn amgylchedd lle mae diogelwch yn hollbwysig
  • Glanhawr profiadol gyda dealltwriaeth o reoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSSH)
  • Aelod da o dîm, gyda sgiliau cyfathrebu cryf a hyblygrwydd o ran agwedd at waith
  • Gallu darllen a deall asesiadau risg, briffiau diogelwch a dogfennau tebyg
  • Yn gyfforddus yn gwneud gwaith sy’n gorfforol anodd

Sgiliau Iaith Gymraeg


Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.


Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol


Y camau nesaf


A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.


Mae Trafnidiaeth Cymru yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.


Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.


* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.